Caer Bentir Porth y Rhaw
Caer bentir, sef math o fryngaer, a godwyd gan y Celtiaid o Oes yr Haearn yw Porth-y-Rhaw (cyfeirnod grid: SM7869024200), a erydwyd gryn dipyn gan y môr. Credir fod y gaer wedi'i chodi gan y llwyth Celtaidd lleol, sef y Demetae, ac fe'i defnyddiwyd hyd at y 4g OC, y cyfnod pan goresgynnwyd Cymru gan y Rhufeiniaid. Heddiw (2022) tua chwarter y fryngaer sydd heb ei erydu.[1] Ceir cyfanswm o bedwar clawdd a ffos ar derasau, gyda'r clawdd mewnol yn 4 metr o uchder. Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod pobl wedi dechrau byw yno yn yr Oes Haearn Cynnar i ganol yr Oes Haearn, ac mae crochenwaith yn dangos fod pobl wedi byw yno tan o leiaf y 4g OC.[2]
Porth y Rhaw yn 2009 | |
Enghraifft o'r canlynol | caer bentir, safle archaeolegol |
---|---|
Rhanbarth | Sir Benfro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O edrych yn fanwl ar fap 1:2500 yr Ordnance Survey yn 1891 gwelir fod talp sylweddol o'r gaer hon wedi diflannu i'r môr cyn hynny.
Rhwng 1997-8 cynhaliodd Archaeoleg Cambria gloddfa ar y corn sy'n ymestyn i'r chwith o'r fryngaer a chanfyddwyd olion wyth tŷ crwn, gyda rhai ohonyn nhw wedi cael eu hail-adeiladu o leiaf 5 gwaith dros y canrifoedd. Roedd un o'r tai hyn o garreg, gyda'r gweddill yn bridd a charreg.
-
Mehefin 2022
Ym Mehefin 2022 cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, gyda nawdd gan CADW a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gloddfa brys pellach, er mwyn archwilio'r fryngaer yn fwy trwyadl.
-
Bryngaer Porth y Rhaw o'r Gorllewin
-
O'r Gorllewin
-
Y gael o'r Dwyrain (Ochr Solfach) gyda ffens y coddio archaeolegol i'w weld
-
Ffosydd a chloddiau amddiffynnol
-
Terasau amddiffynnol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ coflein.gov.uk; gwefan Coflein; adalwyd 24 Mehefin 2022.
- ↑ Crane, P and Murphy K 2010 `The excavation of a coastal promontory fort at Porth y Rhaw, Solva, Pembrokeshire? Archaeologia Cambrensis 159, 53-98 - gw. gwefan Coflein.