Dyddio radiocarbon

Dull o ddyddio gwrthrychau organig drwy ddefnyddio priodweddau carbon-14 (14C) yw dyddio carbon neu Dyddio radiocarbon. Mae 14C yn isotop ymbelydrol.

Peirant mass spectronometer a ddefnyddir yn aml i ddyddio-carbon.

Datblygwyd y dull hwn o ddyddio gan Willard Libby yn niwedd y 1940au a daeth yn ddull safonol o fewn dim. Enillodd Liby Wobr Cemeg Nobel am ei waith, yn 1960. Mae dyddio radiocarbon wedi'i seilio ar y ffaith fod radiocarbod yn cael ei greu yn yr atmosffer yn barhaus drwy ryngweithiad tonnau cosmig a nitrogen. Mae canlyniad yr adweithiad, sef radiocarbon, yn uno gydag ocsigen o'r aer i greu carbon deuocsid ymbelydrol, sydd yn ei dro'n cael ei dynnu i fewn i blanhigion drwy'r broses o ffotosynthesis. Yna, bwyteir y planhigion gan anifeiliaid a throsglwyddir y 14C i'w cyrff. Pan fo'r planhigyn neu'r anifail yn marw, mae'n peidio cyfnewid y carbon gyda'r amgylchedd, ac o'r pwynt hwn ymlaen, mae'r swm o 14C sydd ynddo'n lleihau, gan fod y 14C yn lleihau, fel pob ymbelydredd arall. Mae mesur faint o 14C sydd mewn sampl o blanhigyn neu anifail marw e.e. darn o bren neu asgwrn yn rhoi i ni wybodaeth a ddefnyddir i benderfynu pa bryd y bu'r planhigyn neu anifail farw. Po hynaf fo'r sampl, y lleiaf yw'r 14C, a gan fod Hanner oes 14C oddeutu 5,730 blwyddyn, yna mae'r dull hwn yn effeithiol i blanhigion sy'n iau na 50,000 o flynyddoedd oed.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu