Twnnel rheilffordd o dan y Môr Udd yn Nghulfor Dover yw Twnnel y Sianel. Mae'n cysylltu Ardal Folkestone a Hythe yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, â Pas-de-Calais, Ffrainc. Dyma'r unig gyswllt sefydlog rhwng ynys Prydain Fawr a thir mawr Ewrop. Mae'n 50.45 km (31.35 mi) o hyd. Y darn tanddwr yw 37.9 km (23.5 mi) – y darn tanddwr hiraf o unrhyw dwnnel yn y byd. Ar ei bwynt isaf, mae'r twnnel 75 m (250 tr) o dan waelod y môr a 115 m (380 tr) yn is nag arwyneb y môr. Mae'r twnnel yn cludo trenau cyflym Eurostar ar gyfer teithwyr ar droed, trenau gwennol Eurotunnel Le Shuttle ar gyfer cerbydau ffordd, yn ogystal â threnau nwyddau rhyngwladol.

Twnnel y Sianel
Mathtwnnel rhyngwladol, undersea tunnel, twnnel rheilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol6 Mai 1994 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Mehefin 1993 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeven Wonders of the Modern World Edit this on Wikidata
SirCaint, Pas-de-Calais Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau51.0167°N 1.45°E Edit this on Wikidata
Hyd50,450 metr Edit this on Wikidata
Rheolir ganGetlink Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethGetlink Edit this on Wikidata
Cost15,000,000,000 Ewro Edit this on Wikidata

Mae'r cynlluniau i adeiladu twnnel o dan y Môr Udd yn dyddio'n ôl i 1802. Dros y blynyddoedd ni ddaeth amryw o brosiectau i ddim. Cytunodd llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Ffrainc i adeiladu twnnel ym 1964, a dechreuodd y gwaith ym 1974, ond cafodd y prosiect ei ganslo ym 1975. Yn y diwedd trefnwyd y prosiect llwyddiannus gan Eurotunnel. Dechreuodd y gwaith ym 1988 ac agorwyd y twnnel ym 1994.