Agor y brif ddewislen
Yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz (1646 – 1716), y mathemategydd cyntaf i nodi'n glir rheolau calcwlws.

Cangen o fathemateg sy'n canolbwyntio ar derfynnau, ffwythiannau, deilliadau, ac integrynnau ydyw calcwlws. Ystyr gwreiddiol y gair Lladin calculus yw 'carreg gron', a ddefnyddid i gyfrif a chyfrifo e.e. ar abacws.

Mae iddi ddwy brif gangen, sef calcwlws differol a chalcwlws integrol, sydd yn perthyn i'w gilydd o ganlyniad i theorem sylfaenol calcwlws.[1][2] Yn y bôn, yr astudiaeth o newid yw calcwlws, yn yr un modd ag y mai geometreg yn astudiaeth o siâp, ac algebra yn astudiaeth o weithredoedd mathemategol a'u defnydd wrth ddatrys hafaliadau.

Yn gyffredinol, ysyrir i galcalws gael ei ddatblygu'n beenaf yn y 17g gan Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz.[3] Mae iddo lawer o ddibenion beunyddiol, heddiw, mewn gwyddoniaeth ac economeg.[4]

CyfeiriadauGolygu

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Daearyddiaeth a Daeareg, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 8 Rhagfyr 2018.
  2. "Differential Calculus - Definition of Differential calculus by Merriam-Webster". Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  3. Eves, Howard (1976). An Introduction to the History of Mathematics (arg. 4th.). New York, N.Y.: Holt, Rinehart and Winston. p. 305. ISBN 0-03-089539-1.
  4. Fisher, Irving (1897). A brief introduction to the infinitesimal calculus. New York: The Macmillan Company.