Calimero
Mae Calimero yn gyfres deledu animeiddiedig am gyw iâr anthropomorffig annwyl a direidus. Ef yw'r unig gyw du mewn teulu o ieir melyn. [1] Mae'n gwisgo hanner ei blisgyn wy megis cap ar ei ben. Ymddangosodd Calimero yn wreiddiol ar y sioe deledu Eidalaidd Carosello ar 14 Gorffennaf, 1963, ac yn fuan daeth yn eicon poblogaidd yn yr Eidal.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Crëwr | Toni Pagot |
Gwlad | Yr Iseldiroedd, yr Eidal, Ffrainc, Japan |
Dechreuwyd | 6 Ionawr 1972 |
Genre | comedi |
Hyd | 25 munud |
Iaith wreiddiol | Iseldireg |
Gwefan | https://www.calimero.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crëwyd y cymeriadau gan y stiwdio animeiddio Organizzazione Pagot. Yn wreiddiol fel hysbysebion animeiddiedig ar gyfer cynhyrchion sebon Miralanza AVA a ddangoswyd ledled yr Eidal. Crewyr y prif gymeriad oedd Nino Pagot, Toni Pagot ac Ignazio Colnaghi . [2] Cafodd y cymeriad yr enw Calimero ar ôl eglwys San Calimero (Milan) lle priododd Nino Pagot.
Cafodd y cymeriadau hysbysebion Calimero eu trwyddedu yn Japan fel cyfres anime . Gwnaed y cyntaf gan Toei Animation ac roedd yn rhedeg o Hydref 15, 1972, i Fedi 30, 1975; gwnaed yr ail, gyda gosodiadau a chymeriadau newydd, ym 1992. Gyda'i gilydd, gwnaed 99 o benodau Japaneaidd (47 yng nghyfres Toei 1972, a 52 yng nghyfres Toei 1992). Mae'r gyfres yn bennaf yn cynnwys anturiaethau niferus Calimero a'i ffrindiau wrth iddynt ddatrys dirgelion a gwneud rhaglenni dogfen. Fodd bynnag, mae eu hanturiaethau fel arfer yn eu cael i dipyn o drafferth. Darlledwyd y gyfres gyntaf ar nifer o rwydweithiau Ewropeaidd fel TROS (Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg), ZDF a RTL II (yr Almaen) a TVE (Sbaen). Prynodd STV a HTV Cymru'r hawliau Prydeinig i'r gyfres gyntaf[3], a chawsant eu trosleisio i'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban. Roedd y fersiwn Cymraeg yn cael ei ddarlledu fel rhan o'r rhaglen i blant iau Miri Mawr.
Un o nodweddion amlycaf Calimero yw ei deimlad cyson o gael ei gamddeall gan eraill. Mewn ieithoedd eraill byddai hyn yn cael ei amlygu mewn ymadroddion fel "Does neb yn fy ngharu", "Nid yw'n deg!" , "Mae hyn yn anghyfiawnder!" neu "Dyw oedolion ddim yn fy neall i!" [4] Yn y Gymraeg ei gwyn yw "'S dim blas byw!".
Recordiodd Super Furry Animals can am Calimero ar eu albwm Mwng
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Crump, William D. (2019). Happy Holidays—Animated! A Worldwide Encyclopedia of Christmas, Hanukkah, Kwanzaa and New Year's Cartoons on Television and Film. McFarland & Co. t. 38. ISBN 9781476672939.
- ↑ McLean, Tom (January 27, 2014). "New 'Calimero' Series to Premiere on France's TF1".
- ↑ "Calimero". memorabilia.triptown.com. Cyrchwyd 2022-10-18.
- ↑ Roma, EL PERIÓDICO / (2011-12-15). "Muere uno de los autores de Calimero". elperiodico (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2022-10-18.
(Saesneg) Calimero ar wefan Internet Movie Database