STV yw'r enw a ddefnyddir gan y ddwy drwydded ITV yng Ngogledd a Chanolbarth yr Alban a adnabyddwyd gynt fel Grampian Television (STV North) a Scottish Television (STV Central). Mabwysiadwyd y brand ar Ddydd Mawrth 30 Mai 2006 gan ddisodli enwau'r ddwy fasnachfraint, yn debyg i'r hyn a wnaeth ITV1. Lluniwyd y brand newydd gan Elmwood Design sydd â swyddfa yng Nghaeredin. STV Group plc sy'n berchen ar y ddwy fasnachfraint a hefyd yn berchen ar frandiau eraill megis STV Productions, Ginger Productions a Pearl & Dean.

STV
Math
sianel deledu
Sefydlwyd2006
PencadlysGlasgow
PerchnogionSTV Group
Gwefanhttp://www.stv.tv Edit this on Wikidata

Lleolwyd stiwdios STV ar Stryd Renfield yn ardal Cowcaddens, Glasgow, ers ei sefydliad ym 1974, ond bellach wedi symud i rannu stiwdios newydd yn Pacific Quay ym mis Gorffennaf 2006 gyda BBC Scotland ger Glasgow Science Centre. Lleolir stiwdio arall STV ar safle pwrpasog yn ardal Gorwellin Tullos yn Aberdeen. Mae gan STV ganolfannau darlledu eraill yng Nghaeredin, Dundee ac Inverness ar gyfer cynhyrchiad newyddion rhanbarthol.

Rhaglenni

golygu
 
Hen logo STV

Newyddion

golygu
  • STV News at Six (rhaglenni gwahanol ar gyfer Ngogledd a Chanolbarth yr Alban)
  • STV News Review

Materion Cyfoes a Nodweddion

golygu
  • The Five Thirty Show
  • Northern Exposure (ar-lein blog fideo yng Ngogledd yr Alban)
  • Politics Now
  • The Real MacKay (ar-lein blog fideo yn Canolbarth yr Alban)

Chwaraeon

golygu
  • Scotsport
  • UEFA Champions League Live
  • High Times
  • Rebus
  • Taggart

Adloniant

golygu
  • Conquer the Castle
  • Club Cupid
  • Postcode Challenge

Gweler hefyd

golygu

Dolenni Cyswllt

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato