Morwynion (teulu o bryfaid)
Calopterygidae | |
---|---|
Gwryw'r Calopteryx virgo | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Zygoptera |
Teulu: | Calopterygidae Sélys, 1850 |
Isdeulu | |
Mae Morwynion (Lladin: Calopterygidae; Ffrangeg: demoiselles; Saesneg: jewelwings) yn deulu o 'fursennod' sy'n aml yn cael eu galw ar lafar yn weision y neidr, gan eu bod yn eitha tebyg. Dyma'r grŵp mwyaf oddi fewn i Is-Urdd y mursennod ac maen nhw'n mesur rhwng 50–80 mm o un pen yr adenydd i'r llall, sy'n eu gwneud yr un faint a gweision y neidr. Dim ond 44 mm yw lled adenydd y fursen gynffon las, er nghraifft. Mae eu lliw'n aml yn fetalig ac mae'r teulu'n cynnwys oddeutu 150 o rywogaethau gwahanol.
Eu cynefin yw glannau nentydd araf, parhaol gyda thyfiant ar fin y dŵr.
Etymoleg
golyguO'r Groeg y daw'r enw 'Calopterygidae': kalos sy'n golygu 'hardd' a ptery ('gydag adenydd').
Disgrifiad
golyguAr wahân i'w lliw metalig a'u hadenydd hirion yr hyn sy'n eu gwneud yn wahanol i'r rhan fwyaf o fursennod yw eu cyrff, sy'n fwy llydan na'r arfer. Maen nhw hefyd yn cadw eu hadenydd yn glos wrth eu cyrff pan maent yn gorffwys. Glas yw lliw adenydd y gwryw, fel arfer, heb pterostigma, ac mae adenydd y fenyw yn frown. Ceir cryn dipyn o wythiennau drwy'r adenydd: dros 18 yn aml. Maen nhw'n sgipio hedfan, a hynny bron fel igian, hopian ar adegau. Y lle gorau i'w canfod yw ar frigau llorweddol wrth ochr nant fechan.[1][2]
Dosbarthiad
golyguIsdeulu Caliphaeinae Tillyard & Fraser, 1939:
- Caliphaea Hagen in Selys, 1859
- Noguchiphaea Asahina, 1976
Subfamily Calopteryginae Selys, 1859:
- Archineura Kirby, 1894
- Atrocalopteryx Dumont, Vanfleteren, De Jonckheere, & Weekers, 2005
- Calopteryx Leach, 1815
- Echo Selys, 1853
- Iridictyon Needham & Fisher, 1940
- Matrona Selys, 1853
- Mnais Selys, 1853
- Neurobasis Selys, 1853
- Phaon Selys, 1853
- Psolodesmus McLachlan, 1870
- Sapho Selys, 1853
- Umma Kirby, 1890
- Vestalis Selys, 1853
Subfamily Hetaerininae Selys, 1853:
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dijkstra, 2006. Pages 23, 65.
- ↑ John L. Capinera (2008). Encyclopedia of Entomology. Springer Science & Business Media. tt. 1243–1244. ISBN 978-1-4020-6242-1.