Camlas Trent a Merswy
Mae Camlas Trent a Merswy yn gamlas 93 milltir o hyd rhwng Camlas Bridgewater yn Preston Brook, Swydd Gaer a Dyfrffordd Trent yn Shardlow, Swydd Derby. Mae’r gamlas yn mynd trwy Barnton, Anderton, Middlewich, Wheelock, Kidsgrove, Stoke on Trent, Etruria, Stone a Burton upon Trent. Gan ddefnyddio ei chysylltiadau gyda chamlesi eraill, mae’n bosibl cyrraedd Manceinion, Birmingham, Llundain a Hull.
Math | camlas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.297°N 2.62°W |
Perchnogaeth | North Staffordshire Railway |
Mae’r gamlas yn un gul, heblaw am y darn rhwng Shardlow a Burton upon Trent (ar gyfer cychod mwy Afon Trent). Ehangwyd y gamlas yn ystod tr 1890au rhwng Anderton a Dyfrffordd Weaver ar gyfer cychod mwy Afon Weaver. Mae nodweddion y gamlas yn cynnwys Lifft Cychod Anderton, Twnnel Harecastle, Dyfrbont Afon Dove a Lociau Swydd Gaer.[1]
Hanes
golyguPasiwyd deddf i adeiladu’r gamlas (gyda enw’r Gamlas Grand Trunk), a hefyd camlas arall yn ei chysylltu ag Afon Hafren ym 1766. Torrwyd y tir cyntaf gan Josiah Wedgwood yn ystod yr un flwyddyn. Peiriannydd i’r 2 gamlas oedd James Brindley. Un o noddwyr y gamlas oedd Josiah Wedgwood. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke-on-Trent ac roedd hi’n ffordd dda o gludo crochenwaith. Adeiladwyd Twnnel Harecastle dros cyfnod o 11 mlynedd. Prynwyd y gamlas gan Reilffordd Gogledd Swydd Stafford ar 15 Ionawr 1847 oherwydd gwrthwynebiad cwmni’r gamlas i’r rheilffordd. Bu farw Brindley cyn cwblhâd y gwaith adeiladu. Roedd y gamlas yn holl-bwysig yn natblygiad yr ardal o gwmpas Stoke-on-Trent a hefyd Burton upon Trent. Cariwyd nwyddau, gan gynnwys glo, halen, crochenwaith a chwrw, hyd at y 1950au.[1]
Canghennau
golyguGwelir y gangen Wardle yn rhan o gangen Middlewich Camlas y Grand Union erbyn hyn. Gwelir y gangen Hall Green yn rhan o Gamlas Macclesfield. Mae cangen Caldon wedi dod yn Gamlas Caldon erbyn hyn. Mae’r Gamlas Trent a Merswy yn cysylltu â Dyfrffordd Weaver trwy’r Lifft Cychod Anderton. Mae’n cysylltu hefyd â Gamlas Swydd Stafford a Swydd Gaerwrangon a Gamlas Coventry. Atgyfodir Camlas Derby a Sandiacre.