Canada Isaf
Roedd Canada Isaf (Saesneg: Province of Lower Canada; Canada Inferior ; Ffrangeg: province du Bas-Canada) yn wladfa Brydeinig wedi'i lleoli rhwng rhan isaf Afon Saint Lawrence a glannau Gwlff Saint Lawrence. Roedd yn cynnwys tiroedd deheuol a dwyreiniol talaith bresennol Quebec yng Nghanada a rhanbarth Labrador yn nhalaith bresennol Newfoundland a Labrador (hyd nes y trosglwyddwyd rhanbarth Labrador i Newfoundland yn 1809).[1]
Enghraifft o'r canlynol | Trefedigaeth y Goron |
---|---|
Daeth i ben | 10 Chwefror 1841 |
Dechrau/Sefydlu | 26 Rhagfyr 1791 |
Rhagflaenwyd gan | Province of Quebec |
Olynwyd gan | Province of Canada |
Rhagflaenydd | Province of Quebec |
Olynydd | Canada East, Province of Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfiwyd Canada Isaf gan ran o gyn-drefedigaeth Ffrainc Newydd, a boblogwyd yn bennaf gan Ganadaiaid o darddiad Ffrengig, a drosglwyddwyd i'r Deyrnas Unedig ar ôl buddugoliaeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn y Rhyfel Saith Mlynedd a elwir yn Rhyfel Franco-Indiaidd yn yr Unol Daleithiau. Cafodd rhannau eraill o Ffrainc Newydd eu ildio i'r Deyrnas Unedig hefyd, gan ddod yn drefedigaethau Nova Scotia , New Brunswick a Prince Edward Island.
Crëwyd talaith Canada Isaf yn 1791 gan y Ddeddf Gyfansoddiadol a ffurfiwyd gan wahaniad daearyddol a gwleidyddol tiriogaeth talaith Quebec i daleithiau Canada Isaf ac Uchaf.[2] Mae'r rhagddodiad "Lower" neu "Inferior" yn cyfeirio at ei safle daearyddol mewn perthynas â blaenddyfroedd Afon Sant Laurence.
Bu Canada Isaf, yn yr agwedd gyfreithiol a gwleidyddol, rhwng 1791 a Chwefror 1841, pan gymhwyswyd y Ddeddf Uno a'i hunodd hi a'i chymydog Canada Uchaf i ffurfio Talaith Unedig Canada. Unwyd y deddfwrfeydd i un senedd gyda chynrychiolaeth gyfartal ar gyfer y ddwy ran, er bod gan Ganada Isaf boblogaeth fwy.[3]
Sefydliadau
golyguYn rhinwedd Deddf Gyfansoddiadol 1791 gosodwyd Canada Isaf o dan awdurdod Llywodraethwr Cyffredinol Prydain Gogledd America. Yn wahanol i Ganada Uchaf, New Brunswick a Nova Scotia, nid oedd wedi penodi Is-lywodraethwr. Roedd Cyngor Deddfwriaethol o bymtheg aelod yn cynorthwyo'r Llywodraethwr, a Chyngor Gweithredol yn gwasanaethu fel y Cabinet.
Fodd bynnag , yr arloesi mwyaf oedd creu Tŷ'r Cynulliad yng Nghanada Isaf, yn cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan y boblogaeth. Hwn oedd cynulliad democrataidd cyntaf y Quebec presennol.
Poplogaeth
golyguTrigolion Canada Isaf oedd, gan fwyaf, Canadiens, sef grŵp ethnig a alli ddilyn eu llinach yn ôl i wladychwyr Ffrengig a ymgartrefodd yng Nghanada (Ffrainc Newydd) o'r 17g ymlaen.
Year | Census estimate[4] |
---|---|
1806 | 250,000 |
1814 | 335,000 |
1822 | 427,465 |
1825 | 479,288 |
1827 | 473,475 |
1831 | 553,134 |
1841 | 650,000 |
Llyfryddiaeth
golygu- Christie, Robert. A History of the Late Province of Lower Canada, Ciutat de Quebec: T. Cary/R. Montreal: Worthington, 1848–1855, 6 cyfrol
- Garneau, François-Xavier. History of Canada: from the time of its discovery till the union year, Montreal: J. Lovell, 1860, 3 cyfrol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LABRADOR-CANADA BOUNDARY". marianopolis. 2007. Cyrchwyd 20 Mawrth 2008.
- ↑ Smith, Simon (1998). British Imperialism 1750–1970. Cambridge University Press. t. 28. ISBN 978-3125806405.
- ↑ Jacques Monet, SJ; Richard Foot (4 March 2015). "Act of Union". The Canadian Encyclopedia. Toronto: Historica Canada. Cyrchwyd 18 August 2019.
- ↑ Censuses of Canada. 1665 to 1871, Statistics of Canada, Volume IV, Ottawa, 1876
Dolenni allanol
golygu- Lower Canada a The Canadian Encyclopedia Archifwyd 2010-12-04 yn y Peiriant Wayback
- Upper and Lower Canada (1753-1867) - Canadian Histoire fideo gan Paul Vincent