Cangarŵ
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Inffradosbarth: Marsupialia
Urdd: Diprotodontia
Teulu: Macropodidae
Genws: Macropus
Is-enws: Macropus ac Osphranter
Cangarwod ar Fynydd Ainslie

Bolgodog yw'r cangarŵ (lluosog: cangarŵod) o'r teulu Macropodidae. Maent yn byw yn Awstralia ac yn un o symbolau cenedlaethol y wlad honno.[1][2]

Ma pedwar math o gangarŵ; coch, antilopein, llwyd dwyreiniol a llwyd gorllewinol. Mae cangarŵ coch yr un mwyaf, hyd at 2 fedr o daldra. Gallant yn gyrraedd 65 miltir yr awr neu fwy. Gall canarŵod benywaidd benderfynu rhyw eu blant, ac yn gohirio beichiogrwydd i sicrhau bod eu babanod yn goroesi. Yn arferol, genir babanod ar ôl 7 wythnos; maent yn symud i'r cwd ac yn aros tu mewn am sawl mis.[3]

Benthyciwyd y gair cangarŵ i'r Gymraeg o'r Saesneg kangaroo yn y ddeunawfed ganrif, sydd ei hun yn air benthyg o'r iaith Awstralaidd Gŵgŵ Iemiddir, lle y mae gangurru yn cyfeirio at y cangarŵ mawr llwyd neu ddu. Bathwyd y term brodorol llamhidog (lluosog: llamhidogion) am yr anifail yn 1851 dan ddylanwad y gair llamhidydd ond nid yw wedi ennill ei blwyf.[4]

Rhywogaeth

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Coat of arms". Department of Foreign Affairs and Trade. Australian Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2 Hydref 2011.
  2. "Our currency". Department of Foreign Affairs and Trade. Australian Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-03. Cyrchwyd 2 Hydref 2011.
  3. Gwefan onekind[dolen farw]
  4. "Geiriadur Prifysgol Cymru".
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.