Walabi
Rhywogaeth o marswpial a geir yn Awstralia a Gini Newydd yw'r walabi. Maent yn macropodau ac â chysylltiad agos â changarŵau. Fodd bynnag, mae cangarŵau yn fwy na walabiau. Mae poblogaethau wedi'u cyflwyno yn Seland Newydd, Hawaii, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a rhai gwledydd eraill.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | organebau yn ôl enw cyffredin ![]() |
---|---|
![]() |
Enw Golygu
Benthyciwyd y gair walabi i'r Gymraeg o'r Saesneg wallaby yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, sydd ei hun yn air benthyg o'r iaith Awstralaidd Dharug, lle y mae wollabi yn cyfeirio at walabi'r creigiau. Gwelir y term corgangarŵ yng Ngeiriadur yr Academi hefyd.[1]