Canolfan Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol
Mae'r Ganolfan Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol (CIEL) yn gwmni cyfraith amgylcheddol dielw cyhoeddus wedi'i leoli yng Ngenefa, y Swistir gyda swyddfa hefyd yn Washington, DC, Unol Daleithiau America.[1] Fe'i sefydlwyd ym 1989. [2] Nod tîm CIEL yw "cryfhau a defnyddio cyfraith ryngwladol i amddiffyn yr amgylchedd, hyrwyddo iechyd pobl, a sicrhau cymdeithas sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd." [3] Maent yn helpu i addysgu sefydliadau, corfforaethau, a'r cyhoedd ar faterion amgylcheddol a chynnal eu hymchwil eu hunain.[3]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Sylfaenydd | James Cameron |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad 501(c)(3) |
Pencadlys | Washington |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.ciel.org/ |
Bu Carroll Muffett yn llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol CIEL ers Medi 2010.[4][5] Mae CIEL hefyd yn cynnig rhaglenni interniaeth, allanol a chymrodoriaethau.[6][7][8]
Materion dan sylw
golyguGellir rhannu gwaith CIEL yn dair rhaglen: Hinsawdd ac Ynni; Iechyd yr Amgylchedd; a Phobl, Tir, ac Adnoddau.[1] Mae camau gweithredu i ddiogelu'r amgylchedd a hawliau dynol yn cynnwys "cydweithio i wella polisïau diogelu, cynyddu mynediad at wybodaeth trwy'r System Rhybudd Cynnar, a chefnogi eiriolaeth a chwynion a yrrir gan y gymuned ar fecanweithiau atebolrwydd banciau rhyngwladol ac amlochrog (multilateral)."[9] Mae meysydd o ddiddordeb yn cynnwys bioamrywiaeth, cemegau, newid hinsawdd, hawliau dynol, hawliau amgylcheddol, sefydliadau ariannol rhyngwladol, y gyfraith a chymunedau, plastig, a masnach a datblygu cynaliadwy.[10]
Ymchwil
golyguMae CIEL wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil ac erthyglau manwl. Archwiliodd Smoke and Fumes (2017) ymdrechion y diwydiant olew a nwy i ariannu gwyddoniaeth a phropaganda gwadu hinsawdd, ac mae wedi cael ei ddyfynnu mewn cyfreitha newid hinsawdd yn erbyn allyrwyr carbon.[11][12][13] Mae Plastic & Health (2019) a Plastic & Climate (2019) wedi cael sylw mewn cyhoeddiadau sy'n ceisio esbonio effaith yr argyfwng plastig ar iechyd, hinsawdd a'r amgylchedd.[14][15][16][17] Yn 2020, archwiliodd Argyfwng Pandemig, Dirywiad Systemig ymdrechion y diwydiant olew, nwy a phetrocemegol i ddefnyddio pandemig COVID-19 er eu budd eu hunain.[18][19] Yn 2022, cyhoeddwyd Pushing Back, sef adroddiad am ddatblygiad y diwydiant petrocemegol a beth mae hynny'n ei olygu i gymunedau.[20][21]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Center for International Environmental Law - CIEL". Geneva Environmental Network. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Center for International Environmental Law (CIEL)". Charity Navigator. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ 3.0 3.1 "Center for International Environmental Law/The". Bloomberg. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Jacobo, Julia (2022-04-20). "Experts predict lasting environmental damage from Russia's invasion of Ukraine". ABC News. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "CIEL Announces Carroll Muffett as New President and CEO". CIEL. 2010-09-20. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Center for International Environmental Law Spring 2021 Legal Intern". Harvard University. 2020-09-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-04. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "MASTER'S EXTERNSHIPS". Vermont Law School. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Sohn Fellowship". CIEL. 2015. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "CENTER FOR INTERNATIONAL ENVIRONMENTAL LAW (CIEL)". Coalition for Human Rights in Development. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "UN human rights experts urge treaty to address 'plastic tide'". United Nations Human Rights. 2022-02-22. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Smoke & Fumes". Smoke & Fumes. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Mulvey, Kathy (2017-08-24). "ExxonMobil Attacks New Study That Exposes Its Climate Deception…Again". Union of Concerned Scientists. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Grasso, Marco. From Big Oil to Big Green: Holding the Oil Industry to Account for the Climate Crisis. t. 186.
- ↑ Alberts, Elizabeth Claire (2021-10-22). "Plastics set to overtake coal plants on U.S. carbon emissions, new study shows". Mongabay. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Plastic & Climate: The Hidden Costs of a Plastic Planet (May 2019)". CIEL. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Plastic & Health: The Hidden Costs of a Plastic Planet (February <r2019)". CIEL. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Rubio-Domingo, Gabriela; Halevi, Amit (2022). "Making Plastics Emossions Transparent" (PDF). Coalition on Materials Emissions Transparency. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ "Pandemic Crisis, Systemic Decline: Why Exploiting the COVID-19 Crisis Will Not Save the Oil, Gas, and Plastic Industries (April 2020)". CIEL. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Paremoer, Lauren; Nandi, Sulakshana; Serag, Hani; Braum, Fran (2021). "Covid-19 pandemic and the social determinants of health". BMJ 372: n129. doi:10.1136/bmj.n129. PMC 7842257. PMID 33509801. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7842257.
- ↑ "Pushing Back: A Guide for Frontline Communities Challenging Petrochemical Expansion (May 2022)". CIEL. n.d. Cyrchwyd 2022-05-15.
- ↑ Noor, Dharna; Fabricant, Nicole (2022-04-12). "Fighting Off a Petrochemical Future in the Ohio River Valley". Yes! Magazine. Cyrchwyd 2022-05-15.