Gwn calibr mawr a ffurf ar fagnelaeth yw canon sydd yn lansio teflyn gan ddefnyddio tanwydd ffrwydrol, er enghraifft powdwr gwn.

Daw'r darluniau hynaf o ganonau o oes y Song yn Tsieina'r 12g, ond ni cheir tystiolaeth archaeolegol ohonynt nes y 13g.[1] Defnyddiwyd canonau llaw gan luoedd y Yuan ym 1288, ac mae'r canon hynaf yn y byd sydd yn goroesi yn dyddio o'r un cyfnod. Erbyn blynyddoedd cynnar y 14g, ceir darluniadau o ganonau yn y Dwyrain Canol ac Ewrop, a chofnodion o ddefnydd yr arf ar faes y gad. Erbyn diwedd y 14g, defnyddiwyd canonau ar draws Ewrasia.

Yn y 15g datblygwyd canonau enfawr yn Ewrop, a fyddai'n cael eu dosbarthu'n dri fath: y canon brenhinol, neu ddwbl, a oedd yn pwyso tua 8,000 lbs ac yn saethu pelen o ryw 60 lbs; a'r canon cyfan, a oedd yn pwyso 7,000 lbs ac yn saethu pelen 40 lbs; a'r hanner-gannon a oedd yn pwyso 6,000 lbs ac yn saethu pelen 30 lbs.[2] Cafwyd gynnau mawr tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol gydag enwau gwahanol, gan gynnwys y cwlfrin a'r bwmbart.

Mathau

golygu

Canonau ysgeifn

golygu
  • Minion
  • Ffawconet

Canonau canol

golygu
  • Sacr
  • Cwlfrin

Canonau trymion

golygu
  • Basilisg
  • Bwmbart

Awto-ganonau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lu Gwei-Djen, Joseph Needham a Phan Chi-Hsing, "The Oldest Representation of a Bombard", Technology and Culture 29(3), tt. 594–605.
  2. (Saesneg) Cannon (weapon). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Hydref 2021.