Math o fagnel sydd yn bwrw pelen faen yw bwmbart.[1] Hwn yw un o'r ffurfiau cynharaf ar y canon, a'r prif fagnel ar faes y gad yn Ewrop hyd at hanner cyntaf y 15g.

Bwmbart a phelen wenithfaen a ddefnyddiwyd i amddiffyn castell Marchogion yr Ysbyty yn ystod Gwarchae Rhodos (1480).

Daw'r gair bwmbart, trwy'r Saesneg, naill ai o'r bôn Groeg bombos, sydd yn disgrifio sŵn gwenyn, neu o'r ymadrodd Eidaleg bombo et ardor (mellt a tharanau). Ar y cychwyn, defnyddiwyd yr enw yn gyffredin i ddisgrifio sawl math o arf, rhai ohonynt ond ychydig yn fwyach na'r pot-de-fer. Daeth yr enw yn ddiweddarach i ddisgrifio canonau calibr mawr wedi eu cynhyrchu o haearn gyr, gan gynnwys blaenlwythwyr a bôn-lwythwyr. Byddai'r bwmbart nodweddiadol yn cynnwys siambr bowdwr gulach na'r baril.[2]

Erbyn diwedd y 14g, roedd bwmbartiau yn hynod o fawr ac yn gallu saethu pelenni trymion, gan achosi difrod mawr, dros bellter hir, weithiau un filltir neu ymhellach. Tua 1380, dechreuwyd cael gwared â'r hen fagnelau pren oddi ar faes y gad, am fod y bwmbart mor pwerus.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  bwmbart. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Hydref 2021.
  2. Jeff Kinard, Artillery: An Illustrated History of Its Impact (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2007), t. 38.
  3. Kinard, Artillery (2007), t. 45.