Gynnau mawr y fyddin, yn enwedig arfau pellgyrhaeddol, yw magnelaeth neu fagnelau sydd yn saethu ffrwydron rhyfel y tu hwnt i gyrhaeddiad drylliau'r troedfilwyr.[1] Mae magnelau o galibr mwy na'r mân-arfau y mae'r milwr unigol yn eu cario, ac yn cael eu cludo a'u tanio ar ryw fath o gerbyd neu fownt. Mae canonau, mortarau, a howitsers i gyd yn fathau o fagnelau.

Datblygwyd magnelaeth ar ei ffurf gyntefig, y "peiriannu rhyfel" neu "beiriannau gwarchae", yn yr Henfyd. Cynhyrchwyd y rheiny o bren, ac yn eu plith oedd y blif, yr onagr, a'r balista. Dyfeisiwyd y canon yn ystod yr Oesoedd Canol, â'r gallu i lansio teflynnau gyda grym powdwr gwn.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Artillery. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Hydref 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.