Canser endometriaidd
Canser yn deillio o'r endometriwm (leinin yr wterws neu'r groth) yw canser endometriaidd.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Ymhlith yr arwyddion cyntaf o'r cyflwr y mae gwaedu gweiniol nad yw'n gysylltiedig â chyfnod mislifol. Mae symptomau eraill yn cynnwys poen wrth ollwng dŵr, poen yn ystod cyfathrach rywiol, neu boen pelfig. Yn fwy aml na pheidio, y mae dioddefwr yn datblygu canser endometriaidd wedi darfyddiad mislif.[3]
Math o gyfrwng | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | canser y groth, uterine corpus cancer, endometriosis, neoplasm endometriaidd, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae oddeutu 40% o achosion yn gysylltiedig â gordewdra. Gellir adnabod cysylltiadau rhwng y cyflwr a phwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr ac amlygiad gormodol i estrogen. Rhai nodi, er bod cymryd estrogen ar ei ben ei hun yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser endometriaidd, wrth gyfuno estrogen a phrogestin, fel y gwneir yn y rhan fwyaf o feddyginiaethau rheoli genedigaeth, y mae'r risg yn lleihau. Achosir rhwng dau a phump y cant o achosion gan enynnau etifeddol. Yn achlysurol, cyfeirir at ganser endometriaidd fel "canser crothol", er rhaid cydnabod bod y cyflwr yn wahanol i ganserau crothol eraill megis canser serfigol, sarcoma crothol, a chlefyd troffoblastig.[4] Carcinoma endometrioid yw'r math mwyaf cyffredin o ganser endometriaidd (oddeutu 80% o achosion).[5] Gwneir diagnosis wedi biopsi endometriaidd neu drwy gymryd samplau yn ystod gweithdrefnau o'r enw ymagoriad a chiwretiad. Fel arfer nid yw prawf rhwbiad o'r groth yn ddigonol er mwyn canfod canser endometriaidd.[6] I'r rheini sydd â risg arferol o ddatblygu'r cyflwr, ni chynigir sgrinio rheolaidd.[7]
Un o'r triniaethau pennaf ar gyfer dileu canser endometriaidd yw hysterectomi abdomenol (llawdriniaeth i dynnu'r groth yn gyfan gwbl o'r corff), ynghyd â gwaredi'r tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau ar y ddwy ochr, a elwir yn salipeo-oofforectomi dwyochrog. Mewn achosion mwy datblygedig, argymhellir therapi ymbelydredd, cemotherapi neu therapi hormonau. Os gwneir diagnosis cynnar mae canlyniad cadarnhaol yn debygol, ac y mae 80% o ddioddefwyr yn byw o leiaf 5 mlynedd yn yr Unol Daleithiau wedi diagnosis.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "General Information About Endometrial Cancer". National Cancer Institute. 22 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2014. Cyrchwyd 3 Medi 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Kong, A; Johnson, N; Kitchener, HC; Lawrie, TA (18 April 2012). "Adjuvant radiotherapy for stage I endometrial cancer.". The Cochrane Database of Systematic Reviews 4: CD003916. doi:10.1002/14651858.CD003916.pub4. PMC 4164955. PMID 22513918. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4164955.
- ↑ "What You Need To Know: Endometrial Cancer". NCI. National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2014. Cyrchwyd 6 Awst 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ International Agency for Research on Cancer (2014). World Cancer Report 2014. World Health Organization. Chapter 5.12. ISBN 978-92-832-0429-9.
- ↑ "Endometrial Cancer Treatment (PDQ®)". National Cancer Institute. 23 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2014. Cyrchwyd 3 Medi 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Hoffman, BL; Schorge, JO; Schaffer, JI; Halvorson, LM; Bradshaw, KD; Cunningham, FG, gol. (2012). "Endometrial Cancer". Williams Gynecology (arg. 2nd). McGraw-Hill. t. 823. ISBN 978-0-07-171672-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "SEER Stat Fact Sheets: Endometrial Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)