Canser yn deillio o'r serfics yw canser serfigol. Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[1] Yn ystod pennod gyntaf y cyflwr, fel rheol ni cheir symptomau amlwg. Wrth i’r cyflwr ddatblygu gall achosi gwaedu gweiniol annaturiol, poen ynghylch y pelfis, neu boen a gwaedu yn ystod cyfathrach rywiol.[2]

Canser serfigol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y groth, cervix disease, uterine cervix neoplasm, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arweinia’r Feirws Papiloma Dynol (HPV) at fwy na 90% o achosion;[3][4] fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bobl a'r feirws HPV yn datblygu canser serfigol.[5] Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys ysmygu, system imiwnedd gwan, defnydd o bils atal genhedlu, gweithgarwch rhywiol ifanc ac amryw o bartneriaid rhywiol, rhaid nodi serch hynny mai mân ffactorau yw'r rhain. Fel arfer datblygir canser serfigol o newidiadau cyn-canseraidd dros gyfnod o 10 i 20 mlynedd. Mae tua 90% o achosion canser serfigol yn gelloedd carcinomas cennog, 10% yn adenocarcinoma, a cheir nifer fechan o fathau eraill. Gwneir diagnosis fel arfer drwy sgrinio serfigol ac fe ddilynir gan biopsi. Yna, defnyddir delweddu meddygol i archwilio pennod a lledaeniad y canser.

Mae pigiad HPV yn driniaeth amddiffynnol amlwg ac yn lleihau rhwng dau a saith o'r straeniau risg uchel sydd ynghlwm a'r teulu hwn o firysau, gall y pigiad atal hyd at 90% o achosion canser serfigol.[6] Rhaid nodi nad yw'n dileu'r risg o ddatblygu canser yn gyfan gwbwl, felly argymhellir cynnal profion taeniad rheolaidd.[7] Ymhlith y dulliau gwarchodol eraill y mae lleihau niferoedd o bartneriaid rhywiol ynghyd â defnyddio condomau.[8] Wrth sgrinio canser serfigol drwy brawf taeniad neu asid asetig gellir canfod newidiadau cyn-canserol, ac wedi trin y newidiadau, gellir atal y canser rhag datblygu'n gyfan gwbl. Mae modd trin canser serfigol drwy gyfuniad o lawdriniaethau, rhaglenni cemotherapi a therapïau ymbelydredd.[2] Mae oddeutu 68% o ddioddefwyr yn byw am bum mlynedd o leiaf wedi eu diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[9] Fodd bynnag, mae'r cyfnod goroesi'n gwbl ddibynnol ar ledaeniad y canser.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "Cervical Cancer Treatment (PDQ®)". NCI. 2014-03-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 24 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Kumar V, Abbas AK, Fausto N, Mitchell RN (2007). Robbins Basic Pathology (arg. 8th). Saunders Elsevier. tt. 718–721. ISBN 978-1-4160-2973-1.
  4. Kufe, Donald (2009). Holland-Frei cancer medicine (arg. 8th). New York: McGraw-Hill Medical. t. 1299. ISBN 9781607950141. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-01. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Dunne, EF; Park, IU (Dec 2013). "HPV and HPV-associated diseases.". Infectious Disease Clinics of North America 27 (4): 765–78. doi:10.1016/j.idc.2013.09.001. PMID 24275269. https://archive.org/details/sim_infectious-disease-clinics-of-north-america_2013-12_27_4/page/765.
  6. "FDA approves Gardasil 9 for prevention of certain cancers caused by five additional types of HPV". U.S. Food and Drug Administration. 10 December 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2015. Cyrchwyd 8 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Human Papillomavirus (HPV) Vaccines". National Cancer Institute. 2011-12-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Cervical Cancer Prevention (PDQ®)". National Cancer Institute. 2014-02-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "SEER Stat Fact Sheets: Cervix Uteri Cancer". NCI. National Cancer Institute. November 10, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Cervical Cancer Treatment (PDQ®)". National Cancer Institute. 2014-03-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)