Cantorion Madrigalau Elisabethaidd

Côr a sefydlwyd ym 1950 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yw Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth (Saesneg: The Aberystwyth Elizabethan Madrigal Singers), a adnabyddir ar lafar fel The Mads.[1] Sefydlwyd y côr gan Walter Ryan, Llywydd Cymdeithas Gerddoriaeth y Coleg ar y pryd. Credai Walter fod angen dewis arall ar gantorion y brifysgol heblaw Côr y Coleg. Roedd Walter am i'r côr arbenigo yn y cyfnod cyn-glasurol; ac felly daeth Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth i fod. Maen nhw bellach yn canu caneuon mor amrywiol â chyfansoddiadau Gorecki, Brahms, Mendelssohn, Messiaen, caneuon gwerin a chaneuon crefyddol, ac, wrth gwrs, madrigalau lu.

Cantorion Madrigalau Elisabethaidd
TarddiadAberystwyth, Ceredigion, Cymru
Math o GerddoriaethClasurol, Gwerin
Cyfnod perfformio1950 (1950)–presennol (presennol)
Gwefanhttp://www.abermads.co.uk
Aelodau
Jessica White
Christopher Ashton
Rhiannon Everall
Rachel Evans
Bob Azrin
Emily Rowe
Georgie Lorimer
Rachael Crabb
James Kennedy
Courtney Lang

Y Cyn-Fads

golygu

Ochr yn ochr â’r côr mae cymdeithas o gyn-aelodau’n cwrdd ar gyfer aduniad blynyddol yn Aberystwyth i ddathlu hanes a dyfodol y côr gyda’r côr presennol. Ceir penwythnos o weithdai canu o dan arweiniad cyn-aelod, cyn-arweinydd neu arweinydd profiadol arall o’r byd cerddorol, a swper mawreddog gydag areithiau a straeon o’r gorffennol gan gyn-aelodau ac aelodau newydd. Mae gan y côr archif ar-lein yn http://mads.org.uk. I ddathlu trigainmlwyddiant y côr yn 2010 ysgrifennodd cyn-aelod a chyn-lywydd y gymdeithas gyn-aelodau, Dr Dale Webb, lyfr am hanes y côr – Mads: A History / Hanes y Mads.[1]

Perfformiadau Nodedig

golygu

Mae’r côr wedi canu mewn cyngherddau a chystadlaethau ledled y byd, ac yn 2011 cafodd y côr presennol a’r gymdeithas gyn-aelodau wahoddiad i uno i ganu’r anthemau cyn y gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm.

Cyn-aelodau adnabyddus

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan blurb.com adalwyd 23 Gorffennaf 2013

Gweler hefyd

golygu