Aneirin Hughes
Actor a canwr Cymreig yw Aneirin Hughes (ganwyd Aneurin Hughes, 8 Mai 1958).
Aneirin Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1958 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor teledu, canwr |
Addysg
golyguGanwyd Hughes yn Aberystwyth a'i magwyd mewn pentre bach cyfagos Penbontrhydybeddau.[1] Fe astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o dan yr Athro Ian Parrott ac fe ganodd gyda'r soprano Hazel Holt. Tra oedd yn fyfyriwr cerdd fe arweiniodd gôr siambr y brifysgol. Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth am sawl blwyddyn. Fel myfyriwr, cafodd Hughes ei brofiad actio gyntaf pan ymddangosodd mewn perfformiadau o operau Gilbert and Sullivan dan yr arweinydd David Russell Hulme. Fe aeth Hughes ymlaen i astudio yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama.
Gyrfa actio
golyguCychwynnodd Hughes ei yrfa actio yn y 1980au gydag opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Fe aeth ymlaen i ymddangos yn Blood on the Dole, Casualty, Family Affairs fel DI Patrick Grenham, Spooks, Take Me gyda Robson Green a EastEnders yn Ionawr ac Ebrill 2009 fel Andy Jones, tad mabwysiadol Danielle Jones.[2]
Enillodd Hughes wobr Actor Gorau gan BAFTA Cymru am ei ymddangosiad fel Delme yn y ffilm Gymraeg Cameleon (1997).[3][4] Fe ymddangosodd yn rheolaidd Judge John Deed fel Neil Haughton ac yn Young Dracula fel Graham Branagh. Chwaraeodd Harper yn y ffilm deledu Harper and Isles gyda Hywel Bennett[2] ac fe ymddangosodd yn y ffilm The Theory of Flight yn 1998. Yn fwy diweddar fe ymddangosodd yn y gyfres Pen Talar ar S4C ac yn Holby City fel Sir Fraser Anderson,[2] ac fe ddychwelodd i Pobol y Cwm fel cymeriad newydd, Moc Thomas, rhwng 2012 a 2013. Yn 2012, chwaraeodd ran Gwynfor Evans mewn drama ddogfennol am fywyd y gwleidydd ac ymgyrchydd, gyda'r teitl Gwynfor Evans: Y Penderfyniad?[5]
Yn 2013 ymddangosodd Hughes yn ffilm deledu S4C Y Syrcas[6] ac mae'n chwarae'r Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yng nghyfres ddrama Y Gwyll. Ym Mai 2014 ymddangosodd gyda Tom Jones a Katherine Jenkins mewn cynhyrchiad BBC o Under Milk Wood gan Dylan Thomas i ddathlu canmlwyddiant geni'r awdur.[7][8]
Bywyd personol
golyguMae Hughes wedi rhedeg sawl marathon i elusennau, yn cynnwys Marathon Llundain 2009.[9]
Mae Hughes yn byw yn Nhrefynwy gyda'i wraig Pip Broughton[10] a dau o blant. Mae'n aelod sylfaen o Monmouth Male Voice Choir.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Dref Gymreig, S4C; Adalwyd 2015-12-13
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Hughes on the Internet Movie Database
- ↑ "Internet Movie Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-24. Cyrchwyd 2015-12-23.
- ↑ "BAFTA Cymru 1998". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2015-12-23.
- ↑ "Portraying Gwynfor Evans on the small screen proved to be an 'exciting challenge' for Aneirin Hughes", WalesOnline, 3 Tachwedd 2012; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
- ↑ "Y Syrcas". S4C. December 2013.
- ↑ "Welsh stars including Tom Jones and Katherine Jenkins unite for Dylan Thomas performance", South Wales Evening Post, 17 Ebrill 2014
- ↑ Under Milk Wood, Gwefan BBC, 5 Mai 2014
- ↑ "Aneirin Hughes's profile". Just Giving. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-03. Cyrchwyd 29 Chwefror 2012.
- ↑ When a murder touches your own family; TV DRAMA WILL MAKE ANEIRIN A STAR, The Mirror; 1/2000; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
- ↑ Cylchlythyr Off Centre Theatre, Mai 2013 Archifwyd 2020-11-18 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
Dolenni allanol
golygu- CV Ffilm a theledu Aneirin Hughes Archifwyd 2007-11-16 yn y Peiriant Wayback
- Aneirin Hughes ar wefan y Internet Movie Database
- Judge John Deed Cast List
- BAFTA Cymru Best Actor Award 1998 Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback