Agor y brif ddewislen

Canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol

Corff o ganu masweddus (erotig neu bornograffig yn ôl chwaeth a barn yr unigolyn) o gyfnod Cymru'r Oesoedd Canol yw canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol.

CefndirGolygu

Mae bron y cyfan o'r testunau sydd wedi goroesi yn perthyn i'r 15g - yr eithriad amlwg yw Dafydd ap Gwilym - ond prinder deunydd ysgrifennu am ei fod mor ddrud ac felly'n cael ei ddefnyddio gan amlaf i gadw cerddi "mawr" sy'n gyfrifol am hynny. Mae crefft arbennig y cerddi cymharol ddiweddar sydd wedi goroesi yn awgrymu bod traddodiad hir o ganu o'r fath yng Nghymru.

Ceir canu cyffelyb o'r Oesoedd Canol a chynt yn sawl gwlad arall hefyd, ond nodweddir y canu Cymraeg gan ei dechneg datblygedig a'i ddelweddu coeth a llawn dychymyg. Gellid dweud hefyd fod y canu maswedd Cymraeg, ar y cyfan, yn frasach neu frwntach yn ei ddisgrifiadau na chanu canoloesol o wledydd eraill. Mae'n bosibl fod gwaith y beirdd israddol a elwir y Glêr wedi dylanwadu ar y canu Cymraeg sydd ar glawr heddiw, a bod y Glêr yn eu tro wedi cael eu dylanwadu gan draddodiad canu maswedd Ffrainc, e.e. y pastourelles a'r fabliaux; ac eto i gyd benthyg themâu yn unig yw hynny.

Mae o leiaf un o'r cerddi hyn yn adnabyddus eisoes, sef 'Cywydd y Gal' Dafydd ap Gwilym, tra bod eraill yn adnabyddus i ysgolheigion yn unig tan yn ddiweddar a chyhoeddi'r gyfrol Canu Maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol gan Dafydd Johnston yn 1991. Cyn hynny roedd y cerddi wedi cael eu gwthio i'r ymylon neu eu cuddio; gadawodd Thomas Parry 'Gywydd y Gal' allan o'i olygiad safonol o waith Dafydd ap Gwilym, er enghraifft, heb hyd yn oedd gyfeirio ato.

Natur y canuGolygu

Ceir cryn amrywiaeth yn natur y canu hwn. Mae naws hwyl a thynnu coes i rai o'r cerddi, yn enwedig y rhai sy'n perthyn i ymryson barddol. Mae cyngor ar sut i geisio merch yn thema gyffredin. Ceir cerddi hynod o fras hefyd i'r aelodau cenhedlu gwrywaidd a benywaidd, e.e. 'Cywydd y Gal' gan Ddafydd ap Gwilym a 'Cywydd y Cedor' gan y brydyddes Gwerful Mechain. Ystyrir yr olaf, sy'n disgrifio'r cedor a'i swyddogaeth yn fanwl, yn waith ffeministaidd gan rai beirniaid diweddar. Dyma ddarn o'r gerdd sy'n beio'r beirdd am esgeuluso'r rhan hon o'r corff yn eu canu serch confensiynol:

Gado'r canol heb foliant
A'r plas lle'r enillir plant,
A'r cedor clyd, hyder claer,
Tynerdeg, cylch twn eurdaer,
Lle carwn i, cywrain iach,
Y cedor dan y cadach.[1]

Ochr yn ochr a'r canu maswedd fel y cyfrwy ceir nifer o gerddi dychan Cymraeg o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr sy'n cynnwys weithiau ddisgrifiadau hynod fanwl a masweddus ond sydd ddim yn ganu maswedd fel y cyfryw.

Beirdd y priodolir cerddi maswedd iddyntGolygu

Mae rhai o'r cerddi yn waith beirdd anhysbys neu'n cael eu priodoli i Ddafydd ap Gwilym am ei fod yn fardd serch mor adnabyddus. Beirdd amatur yw'r rhan fwyaf. Dyma restr o'r beirdd a enwir fel awduron y cerddi yn y llawysgrifau:

CyfeiriadauGolygu

  1. Nerys Ann Howells (gol.), Gwaith Gwerful Mechain ac eraill (Aberystwyth, 2001).

LlyfryddiaethGolygu