Pidyn

(Ailgyfeiriad o Penis)
Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. gwerddyr (pwbis)
  3. pidyn, cal(a)
  4. corpws cafernoswm
  5. blaen pidyn (glans)
  6. blaengroen
  7. agoriad wrethrol
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldaflol (neu ffrydiol)
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. argaill
  17. caill
  18. ceillgwd

Organ cenhedlu allanol gwrywaidd yw pidyn (hefyd cala, cal neu penis). Mewn mamal gwrywaidd, trwy'r pidyn mae wrin yn gadael y corff yn ogystal.

Strwythur

golygu
 
Wedi codi ac ar waith

Mae tair colofn o feinwe codiadol mewn pidyn dynol: dau corpora cavernosa (unigol: corpus cavernosum) ac un corpus spongiosum. Lleolir y corpus spongiosum ar ochr isaf y pidyn, ar corpora cavernosa ar yr ochr uchaf. Mae pen y corpus spongiosum yn eang ac yn oddfog; y glans (hefyd: 'sgetyn') ydyw. Ar du allan y glans, mae'r blaengroen, crychiad llac o groen sy'n gallu cael ei dynnu'n ôl i ddatguddio'r glans. Mae'r frenulum yn cysylltu'r blaengroen ag ochr isaf y pidyn. Mae'r wrethra yn mynd trwy'r corpus spongiosum, ac fe leolir ei agoriad, y meatus, ar ben eithaf y glans. Trwy'r wrethra'r alldeflir semen, a thrwyddo mae wrin yn llifo wrth adael y corff. Cynhyrchir sberm yn y ceilliau, a chaent eu storio yn yr epididymis. Mewn rhai mamolion, mae yna asgwrn codiad, y baculum. Nid oes asgwrn yn y pidyn dynol, yn hytrach, ceir codiad wrth iddo lenwi â gwaed. O gymharu â màs y corff, mae'r pidyn dynol yn fwy na'r hyn a geir yn gyfartalog ymysg anifeiliaid.

Y glasoed

golygu

Wrth i hogyn gychwyn y glasoed, wedi i'r ceilliau cychwyn ddatblygu, mae'r pidyn a gweddill yr organau cenhedlu yn cychwyn tyfu. Yn gydamserol, mae blew cedor yn tyfu uwchben ac o gwmpas y pidyn.

Er bod amrywiaeth mawr rhwng astudiaethau, a'u bod yn annigonol braidd, cytunir yn gyffredinol fod cyfartaledd hyd y pidyn mewn cyflwr o godiad llawn rhwng 12.7 cm a 15cm. Mae yna wahaniaethau yn y maint cyfartalog o le i le yn y byd, a rhwng pobl o wahanol hil. Fel gyda sawl priodwedd gorfforol arall, mae hyd a lled y pidyn yn amrywio'n fawr rhwng unigolion. Mae maint y pidyn llipa yn llai na maint pidyn codedig o lawer. Yn ogystal, mae'r gwahaniaeth rhwng maint y pidyn yn ei gyflyrau llipa a chodedig yn amrywio cymaint, fel na ellir darogan y maint codedig o wybod y maint llipa. Ac eithrio achosion eithafol, does dim cydberthyniad rhwng gallu atgenhedliol neu rywiol a maint y pidyn.

Mewn llenyddiaeth Gymraeg

golygu

Ysgrifennodd y bardd enwog Dafydd ap Gwilym am y pidyn ("y gal") yn ei gerdd enwog, Cywydd y gal. Yn y gerdd mae'n rhestru llawer o gyfystyron ar gyfer y pidyn. Yn awdl arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 canodd y Prifardd Robin Llwyd ab Owain hefyd am y pidyn gan ei gymharu i: gleddyf ('Clun ynglŷn, gweinied fy nghledd' ), 'pinwydden' a 'choeden'.

 
Pidyn dynol yn y cyflwr codedig
Pidyn dynol yn y cyflwr codedig 
 
Pidyn glabrous byr
Pidyn glabrous byr 
 
pidyn eliffant
pidyn eliffant 

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am pidyn
yn Wiciadur.