Dafydd ab Edmwnd

uchelwr a phencerdd

Bardd Cymraeg oedd Dafydd ab Edmwnd (bl. 1450 - 1497), sy'n adnabyddus yn bennaf am sefydlu'n derfynol y gyfundrefn mesurau caeth 'traddodiadol' a adnabyddir fel y pedwar mesur ar hugain, yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451.

Dafydd ab Edmwnd
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Hanmer Edit this on Wikidata
Bu farw1497 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1450 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Brodor o Hanmer yn y Maelor Saesneg (ardal bwrdeistref sirol Wrecsam heddiw) oedd Dafydd. Ef oedd perchen plas Yr Owredd ac mae'n debyg iddo fyw yn Llaneurgain hefyd am gyfnod, ym mhlas teulu ei fam ym Mhwllgwepra. Rhai o dras Seisnig y Gororau, ac a Gymreigwyd yn llwyr gyda threigl amser, oedd ei hynafiaid.

Ei athro barddol oedd Maredudd ap Rhys a bu Dafydd yntau yn athro barddol i ddau o feirdd mawr cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, sef Tudur Aled a Gutun Owain. Ymddengys ei fod yn ewyrth i Dudur Aled.

Enillodd Dafydd y gadair yn yr eisteddfod yng Nghaefyrddin a drefnwyd gan Gruffudd ap Nicolas. Yn ôl traddodiad, Dafydd oedd yn gyfrifol am y newid yng nghyfundrefn y beirdd yn yr eisteddfod honno (gw. pedwar mesur ar hugain). Mae Dafydd wedi cael ei feirniadu gan sawl beirniad ers hynny am gyflwyno dau fesur astrus o gymhleth o'i ben a'i bastwn ei hun i'r mesurau traddodiadol a gorfodi eu dysgu. Ond pwrpas y mesurau newydd hyn, na fu erioed mewn bri, oedd fod yn brawf dechnegol i ddarpar feirdd er mwyn cyfyngu nifer y beirdd proffesiynol a drwyddedid yn benceirddiaidd. Gwrthododd rhai o feirdd y cyfnod fel Gwilym Tew eu derbyn ond yn raddol daethant yn rhan o'r drefn gydnabyddedig.

Cerddi

golygu

Roedd Dafydd yn fardd cynhyrchiol a chedwir nifer o'i gerddi ar glawr. Canu serch oedd ei arbenigedd, ond er bod y cerddi yn debyg i rai Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr o ran themâu, mae ei arddull yn glasurol a gorchestol.

Canodd gerddi mawl hefyd. Mae marwnadau Siôn Eos a Dafydd ab Ieuan o Lwydiarth, Môn yn cael eu cyfrif fel rhai o'r cywyddau marwnad gorau.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Thomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914).

Testunau ar wicilyfrau: