Cap Blanc
Y Cap Blanc (Arabeg: الرأس الأبيض Ra's al-Abiad, sef "Y Penrhyn Gwyn"; enw amgen: Ras ben Sakka) yw pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica. Fe'i lleolir ar lan y Môr Canoldir yng ngogledd Tiwnisia, ar gyrion dinas Bizerte, tua 78 km i'r gogledd-orllewin o Diwnis, prifddinas y wlad.
Math | pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bizerte |
Gwlad | Tiwnisia |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 37.3411°N 9.7467°E |
Gorwedd y Cap Blanc tua 10 km i'r gogledd o ganol dinas Bizerte, ar ran o'r arfordir sydd wedi ei datblygu ar gyfer twristiaeth ers rhai degawdau fel y Corniche (math o rodfa môr). Caiff yr enw Cap Blanc am fod ei greigiau o liw gwyn.