Capel Bethesda, Amlwch
capel yn Amlwch, Ynys Môn
Adeiladwyd Capel Bethesda (Capel Mawr) yn 1777 yn Amlwch, Ynys Môn.
Math | capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.407712°N 4.352978°W |
Hanes golygu
Cyfeiriawyd at y capel fel Capel Mawr am y tro cyntaf yn 1818 oherwydd bod yr adeilad wedi ehangu. Adeiladwyd ysgoldy yn 1827. Dywedir bod dros 300 yn mynd i'r Ysgol Sul yn ystod y 1820au. Cafwyd adeiladu capel newydd. Cost y capel oedd £2,200. Roedd gan y capel ffenestri lliw, addurniadau plastr ar y nenfwd yn ogystal â goleuadau nwy. Roedd y capel yn yr arddull neo-Romanésg.[1]
Yn 1906 pregethodd Evan Roberts yno yn ystod dyddiau y Diwygiad.
|
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Jones, Geraint I. L. (2007). Capeli Môn. Gwasg Carreg Gwalch. t. 42. ISBN 1-84527-136-X.