Capel Ebenezer, Abertawe
Capel y Bedyddwyr ar Stryd Ebenezer, Abertawe yw Capel Ebenezer. Adeiladwyd yr adeilad ym 1862 ac mae'n parhau i wasanaethu'r gymuned leol. Mae gan yr adeilad addurniadau cain y tu mewn iddi ac organ euraidd enfawr. Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones y byddai'r capel yn derbyn grant o £20,000 er mwyn adnewyddu'r ffenestri yn nhu blaen yr adeilad ac yn y neuadd ganol.[1]
Math | eglwys Brotestannaidd, capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Abertawe, Castell |
Sir | Castell |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 20.9 metr |
Cyfesurynnau | 51.626°N 3.94226°W |
Cod post | SA1 5BJ |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tabernacl oedd enw gwreiddiol y capel, ond dechreuodd Ebenezer ym 1875 pan ddechreuodd criw o Cristnogion Abertawe ffurfio Eglwys y Bedyddwyr Saesneg eu hiaith. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf mewn cartref un o'r aelodau ac yn ddiweddarach mewn adeilad pren. Fodd bynnag, erbyn mis Tachwedd o'r un flwyddyn, gosodwyd carreg sylfaen Capel Tabernacl yn Stryd Skinner. Ym mis Chwefror 1876, galwyd y gweinidog cyntaf, y Parch. J. D. Jones ac agorwyd yr adeilad newydd ym mis Gorffennaf 1876. Gwasanaethwyd y capel gan nifer o weinidogion tan 1911 pan ddaeth y Parch. R. J. Willoughby i'r Tabernacl. Ym mis Awst 1967, daeth y Parch. Dr. L. H. James yn weinidog ar y Tabernacl. Tua'r un cyfnod, gwnaed cysylltiadau rhwng y capel a Christnogion a oedd yn astudio yn y Brifysgol.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Capel Ebenezer Archifwyd 2009-03-04 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg)Wales historic buildings share £900,000 grant windfall. News Wales. 24-09-2009. Adalwyd ar 25-07-2009