Capel Ebenezer, Caergybi
Mae Capel Ebenezer wedi ei leoli yn nhref Caergybi ar Ynys Môn.
Math | capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caergybi, Cymuned Caergybi |
Sir | Caergybi, Cymuned Caergybi |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.298844°N 4.628538°W |
Cod post | LL65 2TE |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguMae hanes y capel hwn yn gallu cael ei lwybro’n ôl i Ysgol Sul mewn tŷ o’r enw Bodwradd sefydlwyd yn 1813. Ers hynny, mae’r ysgol wedi symud sawl gwaith. Parhaodd Ysgoldy Cweryd, sefydlwyd yn 1826, tan 1850 pan gafodd y capel cyntaf ei hadeiladu. Yn 1860, cafodd estyniad ei roi ar y capel a chafodd sawl atgyweiriad pellach yn yr 1880au. Gan gostio £1065, cafodd ysgoldy a thŷ capel ei hadeiladu yn 1891.[1]
Yn 1897, cafwyd offeryn cerdd yn y capel am y tro cyntaf. Wedi ei hadeiladu mewn dull clasurol gyda mynediad bwa, agorwyd capel newydd yn 1903. Costiodd yr adeilad newydd £5000. Gyda’r ysgoldy a’r tŷ capel yn gyfagos, mae’r Capel Ebenezer yn adeilad mawr, nodedig. Ailadeiladwyd ymhellach, gan gynnwys y ffryntiad, rhwng 1901 a 1912. Mae'r prif ffasâd wedi blocio blociau cerrig llwyd gyda gorchuddion cerrig Caerfaddon ond mae'r waliau allanol wedi'u torri â cherrig mân. Mae'r to o lechi.
Yn ôl sôn, dechreuodd Band of Hope Caergybi yn yr Ebenezer. Erbyn hyn, mae’r capel wedi cau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Geraint I. L. (2007). Capeli Môn. Gwasg Carreg Gwalch. t. 73. ISBN 1-84527-136-X.