Capel Seion, Llanrhaeadr-ym-Mochnant
capel yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
Capel yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, Cymru, yw Capel Seion. Ailadeiladwyd y capel Methodus hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Math | capel |
---|---|
Enwyd ar ôl | Seion |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanrhaeadr-ym-Mochnant |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 153.8 metr |
Cyfesurynnau | 52.8252°N 3.30401°W, 52.825255°N 3.304026°W |
Cod post | SY10 0JP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguAgorwyd y capel gwreiddiol yn y flwyddyn 1834. Ychwanegwyd ystafelloedd dosbarth ar gyfer yr Ysgol Sul yn 1870. Yn 1892 ychwanegwyd tŷ capel ac adeilad ar wahân ar gyfer yr Ysgol Sul.[1]
Yn 1904 ailadeiladwyd adeilad y capel, wedi'i gynllunio gan y penseiri Shayler a Ridge o Groesoswallt. Mae'n gapel o waith carreg gyda tho o lechi yn arddull Gothig y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Dynodwyd Capel Seion yn adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i ystyrir "yn gapel Mudiad Celf a Chrefft arbennig o gain ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath yng Nghymru."[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.119–20