Dewi Myrddin Hughes
Gweinidog
Mae Dewi Myrddin Hughes (ganwyd 9 Ebrill 1941) yn weinidog o Gymru wedi ymddeol. Ei rieni oedd Dafydd Hughes ac Elizabeth Ifans.[1] Mae'n dad i'r artist Aled Rhys Hughes.
Dewi Myrddin Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1941 Llansannan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Plant | Aled Rhys Hughes, Ifan G Hughes |
Bu'n gweinidogaethu yn Y Rhondda (Saron Ynyshir, ac Ebenezer Tylorstown, 1965-71) a Cwmllynfell (1971-81) ac yna yn Rhydaman (Gellimanwydd, 1981-99), cyn ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1999.
Ef oedd arweinydd cyntaf Capel y Nant yng Nghlydach.
Yn enedigol o Lansannan, ac yn 2024 mae'n byw yng Nghlydach.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Gofala Di : Llawlyfr Bugeilio Cristnogol (Cyhoeddiadau'r Gair 2013)[3]
- Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn A; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)
- Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn B; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)
- Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn C; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Podlediad Y Cwmni Bach Podlediad gyda Elinor Wyn Reynolds. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.
- ↑ Ei Orsedd Rasol ef : Blwyddyn A; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig. Cyhoeddiadau'r Gair.
- ↑ "Catalog LlGC Gofala Di". discover.library.wales. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.