Caradog Jones
Mynyddwr enwog Cymreig yw Caradog "Crag" Jones (ganed 1962).
Caradog Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1962 ![]() Pontrhydfendigaid ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | fforiwr, dringwr mynyddoedd ![]() |
Chwaraeon |
BywgraffiadGolygu
Cymro Cymraeg yw Caradog Jones, a aned ym mhentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron, Ceredigion. Yn blentyn, cafodd ei ysbrydoli gan anturiaethau yr arloeswyr cynnar ar Everest, a oedd yn adnabyddus iddo am eu bod wedi ymarfer ar gyfer dringo'r mynydd yn Eryri.[1] O bryd i'w gilydd mae wedi ymddangos ar S4C a siarad ar Radio Cymru am ei anturiaethau ym myd dringo.
Mae wedi bod y cyntaf i ddringo sawl copa o gwmpas y byd, ond mae'n adnabyddus yn bennaf fel y Cymro cyntaf i ddringo Mynydd Everest, mynydd uchaf y byd, camp a gyflawnodd ar y 23ain o Fai 1995, yn 33 oed. Ef oedd y 724fed dringwr i gyrraedd y copa.[2] Esgynodd i'r copa yng nghwmni Michael Knakkergaard-Jorgensen, y Daniad cyntaf i gyrraedd copa Everest.
CyfeiriadauGolygu
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Erthygl ar wefan BBC Wales Dringo Everest
- Video ar BBC Wales Profiadau Jones ar Everest