Offer hudol yn Wica

Yn Wica, defnyddir llawer o offer hudol wrth berfformio defodau a seremonïau.[1] Mae gan bob offeryn ei ddefnydd a'i gysylltiadau symbolaidd ei hun, a defnyddir hwy'n bennaf i ganolbwyntio egnïon,[2] a chânt eu gosod ar yr allor.

Y Dewin yn y Tarot Rider Waite.

Efallai daw'r ymarferiad hwn o draddodiadau'r Seiri Rhyddion, megis defnyddio'r Sgwâr a Chwmpasoedd),[3] ac o ran o ddefodau Urdd Hermetig y Wawr Euraidd.

Defnydd

golygu

Yn Wica, defnyddir offer defodol yn ystod defodau i anrhydeddu'r Duwiau a Duwiesau ac i ddewino. Defnyddir yr offer fel arfer gan eu perchennog yn unig (neu, yn achos offer y cwfen, gan y cwfen fel grŵp), er mwyn sicrhau eu bod yn dal dirgryniadau ac egnïon eu perchennog yn unig.[4]

Yn Wica Gardneraidd, dywedodd Gerald Gardner wrth ei ddisgyblion wrth ddysgu iddynt raddau eu hynydiad bod rhaid iddynt greu eu hoffer defodol eu hun. Roedd rhaid i'r person enwi pob offeryn defodol er mwyn cyrraedd yr ail radd o ynydiad, yn ogystal ag esbonio ei ddefnydd a'i symboliaeth.[4]

Cysegru'r offer

golygu

Cyn defnyddio offeryn mae'n rhaid iddo gael ei gysegru. Yn Llyfr y Cysgodion Gardneraidd, ceir adran a seilir yn gyfan gwbl ar gysegru eitemau defodol.[5] Ynddo, y mae'n datgan bod rhaid i eitemau gael eu cysegru mewn cylch hudol, gyda phentacl ar y llawr yng nghanol y cylch. Mae'n rhaid i'r person osod pob eitem ar y pentacl, ysgeintio ef gyda halen a dŵr, ac wedyn chwythu mwg arogldarthau (mae thus yn gyffredin am fendithio a sancteiddio offer). Ar ôl i'r offeryn gael ei gysegru, y mae'n rhaid datgan bendith.[5]

 
Athamé gyda charn du a Bolein gyda charn gwyn, dwy gyllell yn Wica gyda phwrpasau gwahanol iawn.

Yr Offer

golygu

Y prif offer yw'r Pentacl, Athamé (a hefyd Cleddyf), Hudlath a Charegl. Mae pob un ohonynt yn cynrychioli un o'r bedair elfen; daear (y Pentacl[6] ), awyr (yr Hudlath[6] ), tân (yr Athamé[7][8][9] ), a dŵr (y Caregl[10]), er mae rhai yn cysylltu'r Athamé ag awyr a'r Hudlath â thân.

Mae'r bolein yn gyllell gyda charn gwyn, weithiau gyda llafn crwm. Defnyddir ef ar gyfer arferion ymarferol, megis torri perlysiau a chordiau defodol. Ni ddefnyddir yr athamé byth i dorri dim byd ond aer. Defnyddir y thuser i awelu arogldarth. Defnyddir y fflangell yn Wica Gardneraidd i fflangellu aelodau'r cwfen, yn y lle cyntaf mewn defodau ynydu, gyda'r fflangell yn cynrychioli aberth a dioddefaint, a'r cusan yn cynrychioli bendithion o ddigonedd ym mhob agwedd o fywyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Doreen Valiente. Witchcraft for Tomorrow (1993) Llundain: Robert Hale. ISBN 0-70909-5244-8. Pennod 6: Offer y Wrach (tudalennau 78 hyd at 85)
  2. The Wicca Bible, Anne-Marie Gallagher
  3. Hutton, Ronald The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (1999). Rhydychen: Gwasg Brifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-285449-6 (pp52-61)
  4. 4.0 4.1 Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Green Magic Tudalennau 124 a 125
  5. 5.0 5.1 http://www.sacred-texts.com/pag/gbos/gbos37.htm
  6. 6.0 6.1 Gallagher, Anne-Marie (2005). The Wicca Bible. Godsfield Tudalen 201
  7. Frederic Lamond, Fifty Years of Wicca (Green Magic, 2004), tud. 125.
  8. Hutton, Ronald. Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford University Press Tudalennau 229 a 230
  9. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Green Magic
  10. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Green Magic Tudalen 126