Cyfraith Hywel

(Ailgyfeiriad oddi wrth Cyfraith Hywel Dda)

Yn ôl traddodiad, rhoddwyd trefn ar yr hen gyfreithiau Cymreig yn amser y brenin Dyfnwal Moelmud yn gyntaf yn y cyfnod rhwng 400 a 500CC, a chyfeirir at y rhain fel Cyfreithiau Moelmud. Yna fe'u diweddarwyd gan Hywel Dda a chyfeirir at y casgliad hwnnw fel Cyfraith Hywel.[1]

Llun o farnwr o lawysgrif Peniarth 28
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
NLW Square Logo.Logo Sgwar LLGC.jpg Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion

Braslun o Gymru, 1063-1282

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Cyfraith Hywel, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel Cyfreithiau Cymru, oedd y system gyfreithiol a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol cyn i Gymru gael ei choncro gan Loegr yn 1282/3. O ganlyniad i goncwest Cymru gan y Brenin Edward o Loegr, disodlwyd cyfraith droseddol Cymru gan Statud Rhuddlan yn 1284. Cafodd cyfraith sifil Cymru eu diddymu wedi i Harri VIII basio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542/3.

Tua’r flwyddyn 945 galwodd Hywel ap Cadell (Hywel Dda) bobl o bob rhan o Gymru ynghyd i’r Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed i gasglu, diwygio a threfnu cyfreithiau yng Nghymru. Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd ar drefn gyfreithiol ar gyfer Cymru a fyddai’n cael ei galw’n Gyfraith Hywel Dda.[2] Gan na ellir dyddio unrhyw lawysgrif o’r gyfraith i gyfnod Hywel Dda, ystyrir bod cysylltu ei enw á’r cyfreithiau yn rhoi awdurdod iddynt yn ystod yr Oesoedd Canol.

Roedd Cyfraith Cymru yn fath o gyfraith Geltaidd, gyda llawer o nodweddion tebyg rhyngddi hi a Chyfraith Brehon yr Iwerddon, ac roedd elfennau tebyg ag arferion a therminoleg y Brythoniaid oedd yn byw yn Ystrad Clud.[3] Cafodd Cyfraith Cymru ei throsglwyddo ar lafar ar draws y cenedlaethau gan y beirdd a phobl ddysgedig yn y gyfraith. Ni chafodd ei threfnu a’i strwythuro tan deyrnasiad Hywel Dda ganol y 10fed ganrif.

Mae’r llawysgrifau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Ladin, yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif, ac yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol.[4] Diweddarwyd ac adolygwyd y gyfraith gan rai rheolwyr, fel Bleddyn ap Cynfyn, a chan gyfreithwyr oedd yn ei haddasu yn ôl gofynion a sefyllfaoedd newydd. Felly mae’n anodd gwybod a yw’r llawysgrifau sydd wedi goroesi yn ddehongliad cywir o gyfreithiau cyntaf Hywel Dda.[5]

Roedd Cyfraith Hywel yn cynnwys gwybodaeth am nifer o bynciau amrywiol, o gyfraith hela i gyfraith menywod. Maent hefyd yn cynnwys cyfraith llys y brenin, oedd yn esbonio bod gan y brenin swyddogion oedd yn amrywio o’r bardd teulu i’r hebogydd, a bod gan bob un ei safle yn y llys.[2] Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol, gyda’r brenin ar y brig, a’r alltud a’r caeth ar y gwaelod. Roedd yn anodd dringo o fewn cymdeithas, ac roedd yn rhaid gofyn caniatâd yr arglwydd cyn cael hawl i wneud hynny.[2]

Elfen bwysig yng Nghyfraith Hywel Dda oedd sut oedd etifeddiaeth yn cael ei phenderfynu a’i dosbarthu. Roedd gan bob mab cydnabyddedig hawl i gyfran o eiddo’r tad. Bu hyn yn arwyddocaol ar gyfer tywysogion y Cymry, gan ei fod yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson, heb obaith am undod parhaol. Roedd hyn yn wahanol i deyrnas brenin Lloegr, lle etifeddai’r mab hynaf y deyrnas gyfan.

Rhoddai Cyfraith Hywel bwyslais hefyd ar gyfrifoldeb torfol y gymuned, neu’r genedl, am ei haelodau. Cyfeiria hefyd at agweddau at ysgariad a sut byddai ysgariad yn cael ei drin dan Gyfraith Hywel.

Cyflwynwyd nifer o dermau cyfreithiol newydd gan Gyfreithiau Hywel Dda - er enghraifft, ‘sarhad’ a ‘galanas’. Roedd galanas yn system ‘arian gwaed’ a seiliwyd ar statws. Roedd ‘sarhad’ yn golygu bod tâl yn ddyledus pan oedd unigolyn yn cael ei amharchu ar lafar neu mewn gweithred tra bod ‘galanas’ yn iawndal a dalwyd gan deulu’r troseddwr i deulu’r ymadawedig mewn achosion o lofruddiaeth, ac yn seiliedig ar werth bywyd unigolyn.[6]

Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol. Roedd y breintiau, y cosbau a'r dyletswyddau a ddisgwylid gan y gyfraith yn dibynnu ar statws cymdeithasol yr unigolyn. Rhoddai’r cyfreithiau hawliau i ferched mewn priodas - er enghraifft, os oedd y berthynas yn chwalu ar ddiwedd saith mlynedd medrai’r wraig hawlio hanner yr eiddo oedd yn gyffredin rhyngddi hi a’i gŵr.[7][8]

Mae Cyfraith Hywel yn ddogfen bwysig sy'n dangos bwriad Hywel Dda i lunio fframwaith cyfreithiol roedd y Cymry yn medru ei berchnogi fel cenedl. Yn hynny o beth, roedd yn cynrychioli ymwybyddiaeth o genedl ac yn elfen bwysig o ran creu ymwybyddiaeth o hunaniaeth Cymru fel gwlad yn yr Oesoedd Canol. Cynhwysai llawer o nodweddion oedd yn dangos synnwyr cyffredin, tegwch a pharch.[9][10]

LlawysgrifauGolygu

 
Tudalen o Lyfr Du’r Waun (Peniarth 29)

Nid oes unrhyw lawysgrif ar gael sy’n dyddio o gyfnod Hywel ei hun, ac roedd y gyfraith yn cael ei diweddaru'n gyson. Nid yw ysgolheigion yn cytuno pa un oedd iaith wreiddiol y fersiynau ysgrifenedig o’r cyfreithiau: Cymraeg ynteu Lladin. Yn y Gymraeg yr ysgrifenwyd y cofnod Surexit yn Llyfr Sant Chad[11]. Cofnod yw hwn o ganlyniad achos cyfreithiol yn dyddio o’r 9g[12]. Er nad yw’n llyfr cyfraith fel y cyfryw mae’n dangos fod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar gyfer materion cyfreithiol yr adeg honno.

Y llawysgrifau cynharaf sydd wedi goroesi yw Peniarth 28, sydd wedi ei ysgrifennu yn Lladin ond yn ôl y farn gyffredinol yn gyfieithiad o destun gwreiddiol Cymraeg, a Pheniarth 29, Y Llyfr Du o'r Waun, wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Credir fod y rhain yn dyddio o ddechrau neu ganol y 13g. Cadwyd nifer fawr o lawysgrifau cyfraith, yn bennaf yn Gymraeg ond rhai yn Lladin, yn dyddio rhwng y cyfnod hwn a’r 16g. Heblaw am y fersiynau llawn, ceir testunau byrrach, y credir eu bod wedi eu bwriadu i farnwyr eu defnyddio wrth eu gwaith. Barn gyffredinol ysgolheigion yw eu bod i gyd yn disgyn i dri phrif ddosbarth - Llyfr Cyfnerth, Llyfr Blegywryd a Llyfr Iorwerth. Credir fod llawysgrifau Cyfnerth yn dod o ardal Rhwng Gwy a Hafren (Maelienydd o bosibl),[13] ac mae’r gyfraith yn y fersiynau hyn yn dangos llai o ddatblygiad na’r ddau ddosbarth arall. Credir bod y fersiwn wreiddiol yn dyddio o’r 12g, pan ddaeth yr ardal hon dan ofalaeth Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd), teyrn y Deheubarth. Cysylltir y fersiwn wreiddiol o lawysgrifau Blegywryd â'r Deheubarth ei hun, ac mae’n dangos rhywfaint o ddylanwad eglwysig. Credir bod y fersiwn wreiddiol o lawysgrifau Iorwerth yn cynrychioli’r gyfraith oedd mewn grym yng Ngwynedd yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13g, wedi ei datblygu gan y cyfreithiwr Iorwerth ap Madog. Ystyrir mai fersiwn Iorwerth yw’r fersiwn mwyaf datblygedig o’r gyfraith, er bod rhai elfennau hynafol. Credir bod y fersiwn yn Llyfr Colan yn addasiad o fersiynau Llyfr Iorwerth, sydd hefyd yn dyddio o’r 13g, ac mae Llyfr y Damweiniau yn gasgliad o achosion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â Llyfr Iorwerth yn wreiddiol. Nid oes llawysgrif o Bowys wedi goroesi, er bod Llyfr Iorwerth yn nodi lle mae’r gyfraith ym Mhowys yn wahanol i Wynedd.

DechreuadauGolygu

Ar ddechrau'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau Cymreig, ceir disgrifiad o sut y lluniwyd y cyfreithiau gan Hywel Dda. Fersiwn Llyfr Blegywryd yw:

Hywel Dda fab Cadell, trwy ras Duw Brenin Cymru oll, a welodd y Cymry yn camarfer cyfreithiau a defodau, ac am hynny fe ddyfynnodd ato, o bob cwmwd o’i deyrnas, chwech o wŷr a oedd yn ymwneuthur ag awdurdod ac ynadaeth, a holl eglwyswyr y deyrnas a oedd yn ymarfer a theilyngdod baglau, megis Archesgob Mynyw, ac esgobion, ac abadau, a phrioriaid, i’r lle a elwir y Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed. … Ac o’r gynulleidfa honno, pan derfynodd y Grawys, fe ddewisodd y brenin y deuddeg lleygwr doethaf o’i wŷr, a’r un ysgolhaig doethaf oll, a elwid yr Athro Blegywryd, i ddosbarthu a dehongli iddo ef ac i’w deyrnas gyfreithiau ac arferion yn berffaith, ac yn nesaf y gellid at wirionedd ac iawnder.[14]

Gan fod pob un o’n llawysgrifau yn dyddio o ganrifoedd diweddarach na chyfnod Hywel, ni ellid defnyddio’r gosodiad hwn ar gyfer dyddio’r digwyddiad dan sylw. Dangosodd yr Athro Huw Pryce ei bod hi’n hynod o debygol i’r rhaglith gael ei ddatblygu mewn ymateb i ymosodiad ar Gyfraith y Cymry gan swyddogion yr Eglwys ac Uchelwyr oedd yn dymuno hawliau tebycach i Eglwyswyr ac Uchelwyr Lloegr.[15] Wrth drafod cysylltiad Hywel â’r gyfraith, awgryma K.L. Maund:

it is not impossible that the association of Hywel with the law reflects more on twelfth and thirteenth century south Welsh attempts to re-establish the importance and influence of their line in an age dominated by the princes of Gwynedd.[16]

Ar y llaw arall, dylid nodi fod hyd yn oed fersiynau Iorwerth, a gynhyrchwyd yng Ngwynedd, yn cyfeirio at y cyngor yn Hen Dŷ Gwyn ar Daf, yn union fel y fersiynau deheuol. Mae’n fwy tebygol felly y defnyddid enw Hywel gyda’r gyfraith er mwyn rhoi awdurdod iddynt.

Y gorau y gellid ei ddweud am gysylltiad Hywel â’r gyfraith yw bod cof poblogaidd amdano’n diwygio’r cyfreithiau. Dywedir i frenhinoedd eraill newid y cyfreithiau yn ddiweddarach - er enghraifft, Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Phowys yn yr 11g.

Gellid olrhain rhywfaint o ddeunydd cyfreithiol, fel Saith Esgobty Dyfed, i gyfnod cynnar. Gellid cymharu rhywfaint o’r defnydd cynnar hwn â hen gyfreithiau Iwerddon. Nodir nifer o ddylanwadau'r gyfraith Rufeinig ar gyfraith Hywel gan Thomas Glyn Watkin, ac awgryma fod ychydig o dystiolaeth o barhad o gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, yn enwedig yn Llyfr Cyfnerth.[17] Ceir hefyd ddylanwadau Gwyddelig ac Eingl-sacsonaidd. Yn ôl Watkin, mae'n bosibl bod gwreiddiau "cyfran" fel dull o etifeddu tir yn mynd yn ôl i Oes yr Haearn.[18]

Cyfraith y LlysGolygu

 
Llun hebogydd o Peniarth 28

Delio a hawliau a dyletswyddau'r brenin a swyddogion ei lys mae rhan gyntaf y cyfreithiau. Disgrifir hwynt yn ôl trefn eu pwysigrwydd; yn gyntaf, y brenin, yna’r frenhines a’r edling, y gŵr oedd wedi ei ddewis i deyrnasu ar ôl y brenin. Dilynir hwy gan swyddogion y llys; nodir pedwar ar hugain o’r rhain yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau: Penteulu, Offeiriad teulu, Distain, Ynad Llys, Hebogydd, Pen-gwastrawd, Pen-cynydd, Gwas ystafell, Distain brenhines, Offeiriad brenhines, Bardd teulu, Gostegwr llys, Drysor neuadd, Drysor ystafell, Morwyn ystafell, Gwastrawd afwyn, Canhwyllydd, Trulliad, Meddydd, Swyddwr llys, Cog, Troedog, Meddyg llys a Gwastrawd afwyn brenhines.[19] Nodir dyletswyddau a hawliau pob un o’r rhain.

Defnyddir nifer o dermau cyfreithiol. Gallai sarhad olygu anaf neu anfri ar unigolyn, neu’r taliad oedd yn ddyledus iddo fel iawndal am yr anaf neu’r anfri. Roedd maint y sarhad yn amrywio yn ôl statws yr unigolyn oedd wedi ei effeithio - er enghraifft roedd sarhad y frenhines neu’r edling yn draean sarhad y brenin. Byddai llofrudd a’i deulu yn gorfod talu galanas i deulu unigolyn a lofruddiwyd; roedd yr alanas yn dair gwaith y sarhad, er y gallai’r llofrudd orfod talu sarhad hefyd. Gellid cosbi camweddau llai drwy ddirwy; roedd y term "dirwy" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer taliad am drosedd weddol ddifrifol, tra’r oedd "camlwrw" yn daliad llai lle nad oedd y drosedd yn un fawr. Telid ebediw i’r arglwydd ar farwolaeth un o’i ddeiliaid.

Adlewyrchir tarddle daearyddol y gwahanol fersiynau yn y safle cymharol a roir i deyrnoedd y gwahanol deyrnasoedd. Yn Llyfr Iorwerth, cyhoeddir blaenoriaeth brenin Aberffraw, canolfan Teyrnas Gwynedd, dros y gweddill, tra mae llawysgrifau'r Deheubarth yn hawlio statws cydradd o leiaf i frenin Dinefwr.

Er bod Cyfraith Hywel yn rhoi mwy o bwyslais ar bwerau’r brenin na hen gyfraith Iwerddon, mae hyn yn parhau i fod yn gyfyngedig o’i gymharu â llawer o gyfreithiau eraill. Dywed Moore:

Welsh law fell into the juristic category of Volksrecht ("people's law"), which did not lay great stress on royal power, as opposed to the Kaisersrecht or Königsrecht ("king's law") of both England and Scotland, where it was emphasised that both civil and common law were imposed by the state.[20]

Cyfraith y wladGolygu

At bwrpas y gyfraith, rhennir cymdeithas Cymru yn dri dosbarth - y brenin, y breyr neu fonheddig, y gwŷr rhydd oedd yn dal tir, a'r taeog. Pedwerydd dosbarth oedd yr alltud, unigolion o'r tu allan i Gymru oedd wedi ymsefydlu yno. Roedd y rhan fwyaf o'r taliadau oedd yn ddyledus yn ôl y gyfraith yn amrywio yn ôl statws cymdeithasol yr unigolyn.

Cyfraith gwrageddGolygu

 
Llawysgrif Boston. Fersiwn Gymraeg o'r 14eg ganrif o'r deddfau, gydag anodiadau.

Yn nhrefn llawer o'r llawysgrifau, mae cyfraith y wlad yn dechrau gyda chyfraith gwragedd, yn ymdrin â phriodas a rhannu'r eiddo pe bai pâr priod yn gwahanu. Roedd sefyllfa gyfreithiol merched dan Gyfraith Hywel yn bur wahanol i'r sefyllfa dan y gyfraith Eingl-normanaidd. Gellid sefydlu priodas mewn dwy ffordd. Y dull arferol oedd bod y ferch yn cael ei rhoi i ŵr gan ei thylwyth; y dull arall oedd y gallai merch fynd ymaith gyda gŵr heb gydsyniad ei thylwyth. Os digwyddai hyn, gallai'r tylwyth ei gorfodi i ddychwelyd os oedd yn dal i fod yn wyryf, ond os nad oedd, ni allent ei gorfodi i ddychwelyd. Os oedd y berthynas rhyngddi hi a'r gŵr yn parhau am saith mlynedd, byddai ganddi wedyn yr un hawliau cyfreithiol â phe bai hi wedi ei rhoi gan ei thylwyth.[21]

Roedd nifer o daliadau yn gysylltiedig â phriodas. Taliad i arglwydd y ferch pan gollai ei morwyndod oedd amobr, pa un ai a ddigwyddai hynny drwy briodas ai peidio. Taliad i'r ferch gan ei gŵr y bore wedi'r briodas oedd cowyll, yn nodi bod ei statws wedi newid o fod yn forwyn i fod yn wraig briod. Yr agweddi oedd y rhan o gyfanswm meddiannau'r pâr priod fyddai'n ddyledus i'r wraig pe bai'r cwpl yn ymwahanu cyn pen saith mlynedd o'r briodas. Roedd maint yr agweddi yn dibynnu ar statws cymdeithasol y ferch, ac nid ar werth cyfanswm meddiannau'r pâr. Pe bai'r pâr yn ymwahanu wedi bod yn briod am saith mlynedd neu fwy, roedd gan y ferch hawl i hanner yr eiddo.[22]

Pe bai gwraig yn darganfod ei gŵr gyda merch arall, roedd ganddi hawl i iawndal o chwe ugain ceiniog ganddo y tro cyntaf, a phunt yr ail dro. Y trydydd tro, byddai ganddi'r hawl i'w ysgaru. Os oedd gan y gŵr ordderch, roedd gan y wraig yr hawl i daro'r ordderch heb dalu iawndal, hyd yn oed os byddai hyn yn achosi marwolaeth yr ordderch.[23] Dim ond am dri pheth y caniateid i ŵr guro ei wraig: am roi'n anrheg rywbeth nad oedd ganddi'r hawl i'w roi, am gael ei darganfod gyda dyn arall neu am ddymuno mefl ar farf ei gŵr. Pe bai'n ei tharo am unrhyw achos arall, byddai ganddi hawl i gael tâl sarhad. Pe bai'r gŵr yn ei darganfod gyda dyn arall ac yn ei churo, ni fyddai ganddo'r hawl i unrhyw iawndal pellach.

Yn ôl Cyfraith Hywel, nid oedd gan ferched yr hawl i etifeddu tir. Er hynny, roedd eithriadau, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar. Mewn cerdd a ddyddir i hanner cyntaf yr 11g sy'n farwnad i uchelwr o Ynys Môn o'r enw Aeddon, dywed y bardd fod tiroedd Aeddon wedi eu hetifeddu gan bedair gwraig oedd wedi dod i'w lys fel caethion ac wedi ennill ei ffafr. Yn anffodus i'r bardd, nid oeddynt mor hoff o farddoniaeth ag y bu Aeddon.[24] Roedd y rheolau ar gyfer rhannu eiddo symudol pan fyddai un o'r pâr priod yn marw yr un fath i'r ddau ryw. Rhennid yr eiddo yn ddwy ran gyfartal, gyda'r partner byw yn cael un hanner, a'r unigolyn oedd yn marw yn rhydd i rannu'r hanner arall yn ôl ei (h)ewyllys.

Cyfraith tirGolygu

Egwyddor cyfraith tir oedd bod y tir yn cael ei berchenogi gan uned deuluol y "gwely", oedd yn ymestyn dros bedair cenhedlaeth. Ar farwolaeth penteulu, rhennid ei diroedd yn gyfartal rhwng ei feibion. Roedd gan feibion anghyfreithlon yr un hawl ar y tir â meibion cyfreithlon, cyn belled â bod y tad wedi eu cydnabod yn feibion iddo.

Mae'r dull hwn o rannu tir, sef "cyfran" yn y cyfreithiau Cymreig, yn debyg i'r arfer yn Iwerddon. Byddai'r mab ieuengaf yn rhannu'r tir, yna'r mab hynaf yn dewis ei ran ef yn gyntaf, ac wedyn y gweddill, gan orffen gyda'r ieuengaf. Os oedd mab wedi marw o flaen ei dad, byddai ei ran ef yn mynd i'w feibion. Ni allai merched etifeddu tir fel rheol, er bod cofnod o achos yn Llancarfan lle cofnodir rhannu'r tir rhwng dau frawd a chwaer. Wedi marwolaeth yr olaf o'r meibion, byddai'r "tir gwelyawc" yn cael ei rannu eto, gydag wyrion y perchennog cyntaf yn cael rhannau cyfartal. Ar farwolaeth yr olaf o'r wyrion, rhennid y tir eto rhwng y gor-wyrion.[25] Dywedir yn aml fod y system hon yn arwain at leihau'r maint o dir a ddelid gan unigolion dros y cenedlaethau, ond fel y nodir gan Watkin, nid yw hyn yn wir oni bai fod y boblogaeth yn cynyddu'n gyflym a nifer o feibion yn dilyn pob tad.[26] Araf iawn oedd tŵf y boblogaeth yn y Canol Oesoedd.

Os oedd dadl ynglŷn â pherchenogaeth tir, cynhelid y llys ar y tir a hawlid. Byddai'r ddau hawlydd yn dod â thystion i gefnogi eu hachos. Yn Llyfr Iorwerth, dywedir bod gan bob hawlydd yr hawl i gymorth "cyngaws" a "chanllaw" i gyflwyno eu hachos, y ddau yn fath o gyfreithiwr, er na eglurir y gwahaniaeth rhyngddynt. Os dyfarnai'r llys fod y ddwy hawl yn gyfartal, gellid rhannu'r tir yn gyfartal rhwng y ddau hawlydd.

Disgrifir "dadannudd" hefyd; sef gweithred mab yn hawlio tir a oedd wedi bod yn eiddo i'w dad. Cyfyngid ar hawl y tirfeddiannwr i drosglwyddo ei dir i eraill; dim ond dan amgylchiadau neilltuol a chyda chaniatâd yr etifeddion y gellid gwneud hyn. Gyda chydsyniad ei arglwydd a'r tylwyth, gallai'r tirfeddiannwr ddefnyddio system "prid". Trosglwyddid y tir i unigolyn arall, y "pridwr", am gyfnod o bedair blynedd, ac os nad oedd y tir wedi ei hawlio yn ôl gan y tirfeddiannwr neu ei etifeddion ymhen y pedair blynedd, gellid adnewyddu'r prid am gyfnod o bedair blynedd ar y tro heb gyfyngiadau pellach. Wedi pedair cenhedlaeth, byddai'r tir yn dod yn eiddo'r meddiannydd newydd.[27]

Gweinyddu'r gyfraithGolygu

Byddai’r gyfraith yn cael ei gweinyddu yng Nghymru’r Oesoedd Canol drwy’r cantrefi, a rhannwyd pob un o'r rhain yn gymydau. Roedd y rhain o bwys arbennig yn y ffordd roedd y gyfraith yn cael eu gweithredu. Roedd gan bob cantref ei lys ei hun, sef cynulliad o’r uchelwyr. Hwy oedd prif dirfeddiannwyr y cantref. Byddai’r llys yn cael ei arolygu gan y brenin pe bai’n digwydd bod yn bresennol yn y cartref, neu os nad oedd, byddai ganddo ei gynrychiolydd yn bresennol yn y llys. Ar wahân i’r barnwyr, roedd clerc, porthor llys a dau ddadleuwr proffesiynol. Roedd y cantref yn delio â throseddau, a dadleuon yn ymwneud â ffiniau ac etifeddiaeth.

Roedd y barnwyr yng Ngwynedd yn rhai proffesiynol, ond ne Cymru roedd y barnwyr proffesiynol yn cydweithio â thirfeddiannwyr rhydd yr ardal ac roeddent i gyd yn medru gweithredu fel barnwyr.[28][29]

Effeithiau’r Goncwest Normanaidd ac EdwardaiddGolygu

Arglwyddi’r MersGolygu

Yn dilyn concwest y Normaniaid roedd Cyfraith Cymru, fel arfer, yn cael ei defnyddio yn nhiroedd Arglwyddi’r Mers yn ogystal ag yn nhiroedd y tywysogion Cymreig. Pan fyddai anghytundeb, os byddai hyn yn digwydd yn yr ardaloedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, byddai’n rhaid yn gyntaf penderfynu pa gyfraith fyddai’n cael ei defnyddio i ddatrys y sefyllfa. Er enghraifft, pan fu dadl tir rhwng Gruffydd ap Gwenwynwyn a Roger Mortimer, roedd Gruffydd yn mynnu bod yr achos yn cael gwrandawiad yn unol â chyfraith Lloegr tra bod Mortimer eisiau defnyddio Cyfraith Cymru. Aethpwyd â’r mater gerbron yr ustusiaid brenhinol, a phenderfynwyd yn 1282, gan fod y tiroedd yng Nghymru, y byddai Cyfraith Cymru yn cael ei gweithredu.[30]

Concwest Edward IGolygu

Yn ystod y 12fed a’r 13eg ganrif roedd Cyfraith Cymru yn cael ei gweld fel arwydd o genedligrwydd, yn enwedig yn ystod y gwrthdaro rhwng Llywelyn ap Gruffydd ac Edward I o Loegr yn ystod ail hanner y 13eg ganrif.[31]

Gwnaed sylwadau dirmygus gan Archesgob Caergaint, John Peckham, am Gyfraith Cymru mewn llythyr a anfonodd at Llywelyn yn 1282 pan oedd yn ceisio negydu trafodaethau rhwng Llywelyn ac Edward I, Brenin Lloegr. Dywedodd yn y llythyr fod y Brenin Hywel wedi cael ei ysbrydoli gan y diafol, mae'n rhaid. Mae'n ddigon posib bod Peckham wedi darllen ac archwilio llawysgrif Peniarth 28, a oedd yn cael ei chadw yn llyfrgell Abaty Awstin Sant yng Nghaergaint ar y pryd.[32]

Un o nodweddion Cyfraith Cymru a wrthwynebwyd gan Eglwys Loegr oedd y gyfran gydradd o dir a roddwyd i feibion anghyfreithlon. Yn dilyn marwolaeth Llywelyn, cyflwynwyd Statud Rhuddlan yn 1284 a chyda hynny cyflwynwyd cyfraith trosedd Lloegr i Gymru mewn meysydd fel dwyn, lladrata, llofruddiaethau, a dynladdiad, er enghraifft.

Bron i ddau gan mlynedd wedi i Gyfraith Cymru beidio â chael ei defnyddio ar gyfer achosion troseddol, ysgrifennodd y bardd Dafydd ab Edmwnd (1450-80) farwnad i’w ffrind, y telynor, Siôn Eos, a laddodd ddyn ar ddamwain mewn tafarn yn y Waun, ger Wrecsam. Crogwyd Siôn Eos ond roedd Dafydd ab Edmwnd yn galaru na allai fod wedi cael ei brofi yn ôl cyfraith fwy trugarog ‘Cyfraith Hywel’ na ‘chyfraith Llundain’.[33]

Parhawyd i ddefnyddio Cyfraith Cymru ar gyfer achosion sifil fel etifeddu tir, cytundebau, gwarantau a materion tebyg, er y bu rhai newidiadau, o bosibl - er enghraifft, ni chai meibion anghyfreithlon bellach hawlio rhan o’r etifeddiaeth.[34]

Yn dilyn pasio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542/3 disodlwyd Cyfraith Cymru yn gyfan gwbl gan Gyfraith Lloegr.

Cyfraith Cymru ar ôl y Deddfau UnoGolygu

Yr achos diwethaf a gofnodwyd lle defnyddiwyd Cyfraith Cymru oedd mewn achos tir yn sir Gaerfyrddin yn 1540, sef pedair blynedd ar ôl i’r Deddfau Uno nodi mai dim ond Cyfraith Lloegr oedd i’w defnyddio yng Nghymru.[35] Hyd yn oed yn ystod yr 17eg ganrif, roedd enghreifftiau mewn rhannau o Gymru lle cynhaliwyd cyfarfodydd answyddogol gan negydwyr i benderfynu achosion ac y defnyddiwyd egwyddorion Cyfraith Cymru i wneud hynny.[36]

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi sefydlu Canolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf sy'n cynnwys canolfan ddehongli a gardd i goffáu'r cyngor gwreiddiol a gyfarfu yno.[37]

NodiadauGolygu

  1. Lloyd, John Edward, "Moelmud Dyfnwal", Dictionary of National Biography, 1885-1900 Volume 38, https://en.wikisource.org/wiki/Moelmud,_Dyfnwal_(DNB00), adalwyd 2020-09-27
  2. 2.0 2.1 2.2 Llyfrell Genedlaethol Cymru. "Cyfraith Hywel Dda". HWB. Cyrchwyd 27 Medi 2020.
  3. Lloyd, John Edward (1911). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Kelly - University of Toronto. London, New York [etc.] Longmans, Green, and co.
  4. "Page:Welsh Medieval Law.djvu/13 - Wikisource, the free online library". en.wikisource.org. Cyrchwyd 2020-09-27.
  5. "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-27.
  6. The Law of Hywel Dda : law texts of medieval Wales. Jenkins, Dafydd., Hywel, King of Wales, -950. Llandysul, Dyfed: Gomer Press. 1986. ISBN 0-86383-277-6. OCLC 18985880.CS1 maint: others (link)
  7. "Women, Linen and Gender in the Cyfraith Hywel Dda | Laidlaw Scholarships". laidlawscholarships.wp.st-andrews.ac.uk. Cyrchwyd 2020-09-27.
  8. Owen, Rhodri (2012-03-01). "Compensation culture, AD950-style". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-27.
  9. "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-27.
  10. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 85–93. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  11. Llyfr Sant Chad ar y wê http://www.lichfield-cathedral.org/component/flippingbook/book/3?page=1
  12. Charles-Edwards The Welsh laws tt.74-75
  13. Charles-Edwards The Welsh laws p.20
  14. Williams, S.J. t.1
  15. Pryce, ‘The Prologues to the Welsh Lawbooks’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 33 (1986), 151-182
  16. Maund The Welsh kings p.67
  17. Watkin t. 58.
  18. Watkin tt. 37-8.
  19. S. J. Williams, t. 2
  20. Moore The Welsh wars of independence t. 247
  21. D.B. Walters The European context of the Welsh law of matrimonial property yn Jenkins ac Owen (gol.) The Welsh law of women t. 117
  22. Jenkins Hywel Dda: the law tt.310-311, 329
  23. Morfydd E. Owen Shame and reparation: woman's place in the kin yn Jenkins ac Owen (gol.) The Welsh law of women t. 51
  24. Jarman t. 119
  25. Watkin t. 58
  26. Watkin t. 59
  27. T. Jones Pierce Medieval Welsh society t. 384
  28. Charles-Edwards, T. M. (Thomas Mowbray), 1943- (1989). The Welsh laws. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 15. ISBN 0-585-33537-0. OCLC 45843520.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  29. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Braslun o Gymru, 1063 - 1282". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-28.
  30. Moore, David, 1965- (2007). The Welsh wars of independence, c. 410-c. 1415. Stroud, Gloucestershire: Tempus. t. 149. ISBN 978-0-7524-4128-3. OCLC 72868465.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  31. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 346347. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  32. Huws, Daniel (1976). "Leges Howelda at Canterbury". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru xix: 340-4. https://www.library.wales/discover/digital-gallery/manuscripts/the-middle-ages/laws-of-hywel-dda/daniel-huws-article-leges-howelda-at-canterbury.
  33. The Oxford book of Welsh verse. Parry, Thomas, 1904-1985. Oxford: Oxford University Press. 1962. ISBN 0-19-812129-6. OCLC 59179552.CS1 maint: others (link)
  34. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Rhydychen: Clarendon Press. t. 368. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  35. Charles-Edwards, T. M. (Thomas Mowbray), 1943- (1989). The Welsh laws. Cardiff: University of Wales Press. t. 93. ISBN 0-585-33537-0. OCLC 45843520.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  36. Jones Pierce, Thomas, 1905-1964. (1972). Medieval Welsh society: selected essays by T. Jones Pierce;. Smith, J. Beverley,. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 386–7. ISBN 0-7083-0447-8. OCLC 676063.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  37. "Hywel dda - Hywel Dda,,Hywel,King,Whitland,Ty-gwyn-ar daf,Hywels law,history,heritage,medieval,early assembly,ancient Welsh laws,brenin,cyfraith,Peniarth28". www.hywel-dda.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.

LlyfryddiaethGolygu

 
Cyfrol Saesneg wedi'i golygu gan Aled Rhys Wiliam; 1990
  • T.M. Charles-Edwards, Morfydd E. Owen and D.B. Walters (ed.) (1986) Lawyers and laymen: studies in the history of law presented to Professor Dafydd Jenkins on his seventy-fifth birthday (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0925-9
  • T.M. Charles-Edwards (1989) The Welsh laws Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-1032-X
  • R.R. Davies (1987) Conquest, coexistemce and change: Wales 1063-1415 (Clarendon Press, University of Wales Press) ISBN 0-19-821732-3
  • Hywel David Emanuel (1967) The Latin texts of the Welsh laws (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Daniel Huws (1980) The medieval codex with reference to the Welsh Law Books (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Ifans, (1980) William Salesbury and the Welsh laws'[' (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Coleg Prifysgol Cymru) (Pamffledi cyfraith Hywel)
  • A.O.H. Jarman (1981) The cynfeirdd: early Welsh poets and poetry. Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru). ISBN 0-7083-0813-9
  • Dafydd Jenkins (gol.) (1963) Llyfr Colan: y Gyfraith Gymreig yn ôl hanner cyntaf llawysgrif Peniarth 30 (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Jenkins (1970) Cyfraith Hywel : rhagarweiniad i gyfraith gynhenid Cymru'r Oesau Canol (Llandysul: Gwasg Gomer). ISBN 0850880564
  • Dafydd Jenkins (1977) Hywel Dda a'r gwŷr cyfraith : darlith agoriadol Aberystwyth (Aberystwyth: Adran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Jenkins (1986) The law of Hywel Dda: law texts from mediaeval Wales translated and edited (Gwasg Gomer) ISBN 0-86383-277-6
  • Dafydd Jenkins and Morfydd E. Owen (ed.) (1980) The Welsh law of women : studies presented to Professor Daniel A. Binchy on his eightieth birthday, 3 June 1980 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0771-X
  • T. Jones Pierce Medieval Welsh society: selected essays (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0447-8
  • William Linnard,. (1979) Trees in the Law of Hywel. (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • Kari Maund (2006) The Welsh kings: warriors, warlords and princes (Tempus) ISBN 0-7524-2973-6
  • David Moore (2005) The Welsh wars of independence: c.410 - c.1415 (Tempus) ISBN 0-7524-3321-0
  • Huw Pryce (1986) ‘The Prologues to the Welsh Lawbooks’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 33 (1986), 151-182
  • Huw Pryce (1993) Native Law and the Church in Medieval Wales (Oxford Historical Monographs) (Gwasg Clarendon) ISBN 0-19-820362-4
  • Melville Richards (gol.) (1990) Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llawysgrif Coleg yr Iesu LVII, Rhydychen (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Melville Richards (1954) The laws of Hywel Dda (The Book of Blegywryd), translated by Melville Richards (Gwasg Prifysgol Lerpwl)
  • Sara Elin Roberts (2007) The legal triads of Medieval Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 978-0-7083-2107-2
  • David Stephenson (1984) The governance of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0850-3
  • D. B. Walters,(1982) The comparative legal method : marriage, divorce and the spouses' property rights in early medieval European law and Cyfraith Hywel. (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 1982) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • Thomas Glyn Watkin (2007) The legal history of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 978-0-7083-2064-8
  • Aled Rhys Wiliam (1990, gol.) Llyfr Cynog : a medieval Welsh law digest (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • Aled Rhys William (1960) Llyfr Iorwerth: a critical text of the Venedotian code of mediaeval Welsh law (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0114-2
  • Glanmor Williams (1987) Recovery, reorientation and reformation: Wales c.1415-1642 (Gwasg Clarendon, Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-19-821733-1
  • Stephen J. Williams (gol.) (1938) Detholion o'r hen gyfreithiau Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru)

Gweler hefydGolygu

Dolenni allanolGolygu

http://cyfraith-hywel.cymru.ac.uk/