Carlos Marighella
Gwleidydd o Frasil a chwyldroadwr Marcsaidd–Leninaidd oedd Carlos Marighella (5 Rhagfyr 1911 – 4 Tachwedd 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ddamcaniaeth rhyfela herwfilwrol.
Carlos Marighella | |
---|---|
Cerdyn Carlos Marighella fel aelod o Blaid Gomiwnyddol Brasil (1945–47) | |
Ffugenw | Preto, Menezes |
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1911 Salvador |
Bu farw | 4 Tachwedd 1969 o anaf balistig São Paulo |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Galwedigaeth | llenor, bardd, gwleidydd |
Swydd | federal deputy of Bahia |
Adnabyddus am | Minimanual of the Urban Guerrilla |
Plaid Wleidyddol | Brazilian Communist Party |
Mam | Maria Rita do Nascimento Marighella |
Plant | Augusto Marighella |
Perthnasau | Maria Marighella |
Ganed yn Salvador, Bahia, yng nghyfnod Gweriniaeth Gyntaf Brasil. Mewnfudwr o'r Eidal oedd ei dad, a disgynnodd ei fam o gaethweision Affricanaidd. Astudiodd beirianneg yng Ngholeg Polytechnig Salvador, ond ni chyflawnai ei gwrs. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Brasil ym 1927, a chafodd ei garcharu yn sgil methiant y gwrthryfel comiwnyddol yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Getúlio Vargas ym 1935. Wedi iddo gael ei ryddhau ym 1937, symudodd Marighella i São Paulo.
Cafodd Marighella ei siomi gan agweddau ceidwadol y Blaid Gomiwnyddol yn y cyfnod hwn, a rhodd anogaeth i'w gyd-gomiwnyddion ysgogi'r chwyldro drwy frwydro yn erbyn y llywodraeth ar strydoedd y dinasoedd. Etholwyd i'r Gyngres Genedlaethol yn ddirprwy dros dalaith São Paulo ym 1946, ond bu'n rhaid iddo weithredu'n gudd yn sgil gwaharddiad y Blaid Gomiwnyddol ym 1947. Ym 1960 cafodd Marighella ac arweinwyr Plaid Gomiwnyddol Brasil eu gwahodd i La Habana, yn sgil buddugoliaeth Chwyldro Ciwba. Gwrthodwyd y gwahoddiad gan y rhai eraill, gan achosi rhwyg yn y blaid.
Dadleuodd Marighella bod damcaniaeth chwyldroadol Che Guevara ar drengi gan ei fod yn rhy ddigymell, a datblygodd felly ddamcaniaeth ei hun. Sefydlodd yr Ação Libertadora Nacional (ALN) ym 1968 ac ysgrifennodd Minimanual do Guerrilheiro Urbano (1969) fel llawlyfr i chwyldroadwyr herwfilwrol. Bu farw Marighella mewn cudd-ymosodiad gan yr heddlu yn São Paulo yn 57 oed.
Darllen pellach
golygu- Emiliano José, Carlos Marighella: O inimigo número um da ditadura militar (São Paulo: Sol Chuva, 1997).
- Cristiane Nova a Jorge Nóvoa (goln), Carlos Marighella: O homem por trás do mito (São Paulo: Editora UNESP, 1999).
- Vladimir Sacchetta, Márcia Camargos, a Gilberto Maringoni (goln), A imagem e o gesto: Fotobiografia de Carlos Marighella (São Paulo: Fundação Perseu Abramo, 1999).