Dinas ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-ddwyrain Brasil a phrifddinas talaith Bahia yw Salvador (enw hanesyddol, São Salvador da Baía de Todos os Santos neu Salvador de Bahia; weithiau Bahia yn unig ar hen fapiau ac mewn llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol yr 20g). Mae'n enwog ym Mrasil am ei charnifal a'i diwylliant poblogaidd, ei cherddoriaeth a'i phensaerniaeth. Salvador oedd prifddinas gyntaf gwladfa Bortiwgalaidd Brasil, ac mae'n un o'r hynaf yn y wlad honno ac un o'r dinasoedd Ewropeaidd hynaf yn y Byd Newydd. Gyda phoblogaeth o 2,892,605 (2007), dyma'r ddinas drydedd fwyaf poblog ym Mrasil, ar ôl São Paulo a Rio de Janeiro, a'r wythfed felly yn America Ladin, ar ôl Dinas Mexico, São Paulo, Buenos Aires, Lima, Bogotá, Rio de Janeiro a Santiago de Chile.

Salvador
ArwyddairSic illa ad arcam reversa est Edit this on Wikidata
MathBwrdeistref ym Mrasil, metropolitan region Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIesu Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,418,005 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1549 (foundation of the city of Salvador) Edit this on Wikidata
AnthemHino de Salvador Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBruno Reis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Fflorens, Angra wneud Heroismo, Cayenne, Cascais, Lisbon, Los Angeles, Philadelphia, Valparaíso, Natal, Maracay, Chongqing Edit this on Wikidata
NawddsantFrancis Xavier Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGreater Salvador, Immediate Geographic Region of Salvador, Mercosur Cities Network Edit this on Wikidata
SirBahia Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd693 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Bay of All Saints, Enseada dos Tainheiros, Enseada do Cabrito, Baía de Aratu Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLauro de Freitas, Simões Filho, Saubara, Candeias, Itaparica, Madre de Deus, Salinas da Margarida, São Francisco do Conde, Vera Cruz Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.9831°S 38.4928°W Edit this on Wikidata
Cod post40000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMunicipal Prefecture of Salvador Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholMunicipal Chamber of Salvador Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Salvador Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBruno Reis Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.759 Edit this on Wikidata
Am leoedd eraill o'r un ewn gweler Salvador. Gweler hefyd San Salvador a São Salvador.

Mae dros 80% o boblogaeth Salvador o dras etnig Affricanaidd, ac mae'n brif ganolfan y diwylliant Affro-Frasilaidd. Mae canol Salvador, y 'Pelourinho', yn nodweddol am ei adeiladau hanesyddol, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Salvador, ac mae wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd ers 1985.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.