São Paulo

ddinas ym Mrasil

Dinas fwyaf Brasil a phrifddinas talaith São Paulo yw São Paulo "Cymorth – Sain" ynganiad . Fe'i lleolir ar lwyfandir tua 70 km o'r môr yn ne-ddwyrain y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 11,451,245 (2022)[1] gyda mwy na 20,850,000 (2016)[2] o bobl yn yr ardal fetropolitaidd (São Paulo Fwayaf). Yn ogystal, São Paulo yw'r ddinas fwyaf yn yr Americas a gwledydd y byd sy'n siarad Portiwgaleg ac yn y 2020au hi oedd 12fed dinas fwyaf ei phoblogaeth ar y Ddaear.[3] Creodd y broses o ymuno ag ardaloedd metropolitan sydd wedi'u lleoli o amgylch São Paulo Fwyaf (Campinas, Santos, Sorocaba a São José dos Campos) y São Paulo Macrometropolis, sef 'megalopolis' gyda mwy na 30 miliwn o drigolion, un o'r crynodrefi trefol mwyaf poblog yn y byd.[3][4]

São Paulo
MathBwrdeistref ym Mrasil, y ddinas fwyaf, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, mega-ddinas, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlyr Apostol Paul Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,451,245 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Ionawr 1554 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem of the Municipality of São Paulo Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRicardo Nunes Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSão Paulo Fwyaf, São Paulo, São Paulo metropolitan area Edit this on Wikidata
SirSão Paulo Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd1,523 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr760 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Pinheiros, Afon Tietê Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.550394°S 46.633947°W Edit this on Wikidata
Cod post01000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSiambr Fwrdeistrefol São Paulo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer São Paulo Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRicardo Nunes Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.805 Edit this on Wikidata
Adeiladau swyddfeydd ger Afon Pinheiros
Lleoliad São Paulo

São Paulo, yw'r dalaith fwyaf poblog a chyfoethocaf ym Mrasil. Mae'n uned ryngwladol gref mewn masnach, cyllid, y celfyddydau ac adloniant.[5] Mae'r enw'n cyfeirio at yr Apostol Paul, un o'r disgyblion mewn Cristnogaeth.

Dyma'r economi fwyaf, yn ôl Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) yn America Ladin a Hemisffer y De, ac mae'r ddinas yn gartref i Gyfnewidfa Stoc São Paulo.[6] Rhodfa Paulista yw craidd economi São Paulo. Yn 2018 roedd gan y ddinas yr 11eg GDP mwyaf yn y byd, sy'n cynrychioli 10.7% o holl GDP Brasil a 36% o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yn nhalaith São Paulo.[7] Mae'n gartref i 63% o gwmnïau rhyngwladol, enfawr Brasil, a chynhyrchodd 28% o 'r cynhyrchiad gwyddonol cenedlaethol yn 2005, o'i mesur ggyda nifer y papurau gwyddoniaeth a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion.[8][9]

Mae'r metropolis yn gartref i nifer o'r skyscrapers talaf ym Mrasil, gan gynnwys y Mirante do Vale, Edifício Itália, Banespa, Twr y Gogledd a llawer o rai eraill. Mae gan y ddinas ddylanwad diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n gartref i henebion, parciau ac amgueddfeydd fel Cofeb America Ladin, Parc Ibirapuera, Amgueddfa Ipiranga, Amgueddfa Gelf São Paulo, ac Amgueddfa'r Iaith Portiwgaleg. Mae'r ddinas yn cynnal digwyddiadau fel Gŵyl Jazz São Paulo, Gwyl Gelf Senno Paulo, Grand Prix Brasil, Wythnos Ffasiwn São Paulo, ATP ATP Open, Sioe Gêm Brasil a Phrofiad Comic Con. Mae gorymdaith Hoywon LGBTQ São Paulo yn cystadlu â gorymdaith Hoywon Dinas Efrog Newydd fel yr orymdaith LGBTQ fwyaf yn y byd.[10][11]

Mae São Paulo yn grochan o ddinas cosmopolitaidd, lle mae pobloedd y byd yn toddi'n un, gan gynnwys, diasporas o Arabia, yr Eidal, Japan a Phortiwgal, gan mwyaf, gydag enghreifftiau yn cynnwys cymdogaethau ethnig Mercado, Bixiga, a Liberdade yn y drefn honno. Mae São Paulo hefyd yn gartref i'r boblogaeth Iddewig fwyaf ym Mrasil, gyda thua 75,000 o Iddewon.[12] Yn 2016, roedd trigolion y ddinas i dros 200 o wahanol wledydd.[13] Gelwir pobl o'r ddinas yn "paulistanos", tra bod paulistas yn dynodi unrhyw un o'r wladwriaeth, gan gynnwys y paulistanos. Arwyddair Lladin y ddinas, y mae wedi'i rannu â'r llong ryfel a'r cludwr awyrennau, yw Non ducor, duco, sy'n cyfieithu fel "Nid wyf yn cael fy arwain, rwy'n arwain."[14]

Caiff y ddina ei hadnabod ar lafar gwlad fel "Sampa" neu "Terra da Garoa", ac mae'n adnabyddus am ei dywydd annibynadwy, ei phensaernïaeth, gastronomeg, tagfeydd traffig difrifol a skyscrapers. Roedd São Paulo yn un o ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd FIFA 2014. Yn ogystal, cynhaliodd y ddinas Gemau Pan-Americanaidd IV a'r São Paulo Indy 300.

Hanes golygu

Y cyfnod cyn y goresgyniad golygu

Roedd pobl Tupi'n byw yn yr ardal lle saif ardal São Paulo heddiw, a elwid ar y pryd hynny'n "wastadeddau Piratininga" o amgylch Afon Tietê, a llwythi brodorol y Tupiniquim, Guaianas, a'r Guarani. Roedd llwythau eraill hefyd yn byw mewn ardaloedd sydd heddiw'n ffurfio'r rhanbarth fetropolitan.[15] Rhannwyd y rhanbarth yn Caciquedoms (teyrnasoedd bychan) cyn dyfodiad yr Ewropeaid.[16] Y pennaeth (Cacique) mwyaf nodedig oedd Tibiriça, sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth i'r Portiwgaliaid a gwladychwyr Ewropeaidd eraill. Ymhlith y nifer o enwau brodorol sydd wedi goroesi heddiw mae Tietê, Ipiranga, Tamanduateí, Anhangabaú, Piratininga, Itaquaquecetuba, Cotia, Itapevi, Barueri, Embu-Guaçu ac ati.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Avenida Paulista
  • Adeilad Banespa
  • Catedral da Sé (eglwys gadeiriol)
  • Edifício Itália
  • Estação da Luz
  • Museu do Ipiranga (amgueddfa)
  • Pátio do Colégio
  • São Paulo Metro

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.ibge.gov.br/estatisticas/sociais/populacao/22827-censo-demografico-2022.html?edicao=37225. dyddiad cyrchiad: 24 Hydref 2023.
  2. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf. dyddiad cyrchiad: 30 Medi 2020.
  3. 3.0 3.1 Queiroga, Eugenio Fernandes (Mai 2005). "A Megalópole do Sudeste Brasileiro: a formação de uma nova entidade urbana para além das noções de macro-metrópole e de complexo metropolitano expandido". Associação Nacional de Pós-Graduação e Pesquisa em Planejamento Urbano e Regional. Cyrchwyd 31 Awst 2016.[dolen marw]
  4. Zioni, Silvana; Silva, Gerardo; Passarelli, Silvia Helena (2011), Structuring dynamics of São Paulo macrometropolis: perspectives and strategies for rail infrastructure re-functioning.ZIONI, ; , ; , .
  5. "The World According to GaWC 2010". Lboro.ac.uk. 14 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2013. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2012.
  6. "Latin American cities Ranking by GPD" (PDF) (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Ionawr 2017. Cyrchwyd 4 Ionawr 2019.
  7. "BBC Brasil – Notícias – São Paulo será 6ª cidade mais rica do mundo até 2025, diz ranking". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2009.
  8. "IBGE". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2016. Cyrchwyd 26 Chwefror 2016.
  9. "Assessoria de Comunicação e Imprensa" Archifwyd 17 June 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  10. "Revelers Take To The Streets For 48th Annual NYC Pride Mawrth". CBS New York. 25 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2017. Cyrchwyd 26 Mehefin 2017. A sea of rainbows took over the Big Apple for the biggest pride parade in the world Sunday.
  11. Ennis, Dawn (24 Mai 2017). "ABC will broadcast New York's pride parade live for the first time". LGBTQ Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 26 Medi 2018. Never before has any TV station in the entertainment news media capital of the world carried what organizer boast is the world's largest Pride parade live on TV
  12. "Brazil – Modern-Day Community". www.jewishvirtuallibrary.org/. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 4, 2013. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2013.
  13. "As 10 menores comunidades estrangeiras de São Paulo" (yn Portiwgaleg). O Estado de S. Paulo. October 24, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2016. Cyrchwyd 24 Hydref 2016.
  14. "E São Paulo". Navios De Guerra Brasileiros. Brazilian Navy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 3 Mai 2009.
  15. Goodman, Edward Julius (1992). The Explorers of South America. Oklahoma: University of Oklahoma Press.
  16. Steward, Julian Haynes (1946). Handbook of South American Indians. Washington D.C: U.S. Government Printing Office. ISBN 9780806124209.