Carme Forcadell i Lluís
Carme Forcadell i Lluís (ganwyd yn Xerta, Baix Ebre yn 1956) yw Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia o'i sefydlu yn 2012 hyd at Mai 2015.[1][2] . Mae'n awdures nifer o lyfrau, yn bennaf am iaith ac addysg.[3]
Yr Athro Carme Forcadell i Lluís | |
Carmen Forcadell yn traddodi araith yn y Plaza de Catalonia, Barcelona | |
Llywydd Llywodraeth Catalwnia
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 26 Hydref 2015 | |
Is-Arlywydd(ion) | Lluís Corominas i Díaz José María Espejo-Saavedra Conesa |
---|---|
Rhagflaenydd | Núria de Gispert |
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalunia
(Assemblea Nacional Catalana) | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 2012–2015 | |
Geni | 1956 Xerta, Baix Ebre |
Cenedligrwydd | Catalwnia |
Etholaeth | Sabadell ( 2003 - 2007) |
Plaid wleidyddol | Esquerra Republicana de Catalunya |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Junts pel Sí |
Alma mater | Prifysgol Barcelona |
Galwedigaeth | Athro Prifysgol mewn iaith a llenyddiaeth; awdures |
Gwefan | carmeforcadell.cat |
Yn 2015 fe'i hetholwyd ar sedd yn Llywodraeth Catalwnia fel rhan o'r glymblaid Junts pel Sí ('Annibyniaeth Gyda'n Gilydd').[4] Yna, ar 26 Hydref 2015 etholwyd hi'n Llywydd Llywodraeth Catalwnia.
Yn Hydref 2016 bu'n rhaid iddi ymddangos o flaen Tribiwnlys Cyfansoddiadol Sbaen am iddi ganiatáu i'r Refferendwm dros Annibyniaeth gael ei gynnal. Penderfynodd y Tribiwnlys y byddai Carme'n cael ei herlyn mewn llys barn. Dywedodd wrth y Llys, ar 16 Rhagfyr 2016 iddi ganiatáu'r bleidlais gan i ddwy blaid ofyn amdano, ac y byddai'n gwneud yr un penderfyniad eilwaith. Dywedodd fod y Tribiwnlys,a wysiwyd gan Lywodraeth Sbaen, yn fodd i sensro a thawelu llais pobl Catalwnia.[5]
Addysg a gyrfa
golyguDerbyniodd Carme radd mewn athroniaeth o Brifysgol Barcelona a gradd Meistr mewn Athroniaeth Catalan o'r un coleg. Am beth amser wedyn gweithiodd yn y cyfryngau, gan gynnwys TVE rhwng 1979 a 1982. Ers 1985 bu'n aelod o Adran Addysg y Llywodraeth ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar iaith ac addysg yn ogystal â geiriadur.
Gwleidyddiaeth a gwaith
golyguMae'n aelod o 'Gomisiwn Dros Urddas' a'r 'Llwyfan Dros yr Hawl i Benderfynu' sy'n rhan o Bwyllgor y Cyfryngau.
Yn wleidyddol mae'n perthyn i asgell chwith y Gweriniaethwyr ac yn aelod o Esquerra Republicana de Catalunya; bu'n Gynghorydd Tref Sabadell rhwng 2003 a 2007.[6][7].
Yn haf 2012 roedd yn gyfrifol am gydlynnu'r 'Orymdaith Dros Annibyniaeth' yng Nghatalunia yn ogystal â bod yn Llywydd y Cynulliad. Roedd hefyd yn lladmerydd yn yr ymgyrchoedd Catalunya, nou estat d'Europa (Catalonia, Gwladwriaeth newydd Ewrop) a 'Via Catalana' (Y ffordd Catalunaidd). Gwobrwywyd Carme yn 2014 pan enillodd Wobr John White yn nhref Perpignan, am ei gwaith dros ei gwlad, ac am amddiffyn ei hunaniaeth a'i diwylliant.
-
2012
-
Carme'n pleidleisio yn Refferendwm Catalwnia 2014
-
Ail o'r chwith gyda Artur Mas i Gavarró ar y chwith eithaf
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Jordi Sànchez, nou president de l'Assemblea Nacional Catalana". CCMA.cat. 16 Mai 2015. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2015.
- ↑ Bataller, Marc (30 Ebrill 2012). "L'actitud hostil d'Espanya ens ajudarà a tenir estat" (yn Catalan). El Punt Avui. http://www.elpuntavui.cat/article/3-politica/17-politica/534594-lactitud-hostil-despanya-ens-ajudara-a-tenir-estat.html. Adalwyd 15 Gorffennaf 2015.
- ↑ “L'actitud hostil d'Espanya ens ajudarà a tenir estat” Entrevista a Carme Forcadell; adalwyd 30 Ebrill 2012
- ↑ "Diputats electes" (yn Catalan). El Punt Avui. http://www.elpuntavui.cat/canals/politica/eleccions-plebiscitaries-27s2015/electes.html. Adalwyd 11 Hydref 2015.
- ↑ catalanmonitor.com; adalwyd 16 Rhagfyr 2016.
- ↑ Currículum a la seva pàgina web
- ↑ [1] La madrina del independentismo; El País