Richard Griffith (Carneddog)
Llenor, bardd a newyddiadurwr o Gymru oedd Richard Griffith (26 Hydref 1861 – 25 Mai 1947), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol, Carneddog.[1]
Richard Griffith | |
---|---|
'Carneddog a'i wraig cyn gadael eu hen gartref yn Eryri.' Llun eiconig Geoff Charles (1945). | |
Ffugenw | Carneddog |
Ganwyd | 26 Hydref 1861 |
Bu farw | 23 Mai 1947 |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, ffermwr |
Bywgraffiad
golyguGaned Carneddog yn 1861 yn ffermdy Y Carneddi, plwyf Nantmor, ger Beddgelert, Gwynedd. Bu'r ffermdy yn gartref i'w hynafiaid am genedlaethau a bu Carneddog yn byw yno ar hyd ei oes hyd 1945 pan symudodd ef a'i wraig i fyw yn nhŷ eu mab yn Hinckley, yn Swydd Gaerlŷr, Lloegr. Mae'r llun a dynodd y ffotograffydd Cymreig Geoff Charles o Garneddog a'i wraig ar riniog ei hen ffermdy yn ffarwelio ag Eryri yn cael ei ystyried gan lawer yn llun eiconig sy'n cynrychioli'r newid mawr a ddaeth i'r Gymru Gymraeg yn yr 20g. Bu farw Carneddog yn swbwrbia Hinckley ddwy flynedd ar ôl gadael Eryri.[1]
Gwaith llenyddol
golyguFfermwr defaid oedd Carneddog o ran ei waith, ond cyfranodd nifer o erthyglau i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg yn cynnwys Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, a'r Herald Cymraeg. Er na chafodd ond ychydig o addysg ffurfiol, roedd yn hyddysg yn hanes ei fro. Cyhoeddodd sawl llyfr Cymraeg, yn cynnwys cofiannau i Richard Owen (Glaslyn) a John Jones (Jac Glan-y-Gors). Roedd yn fardd yn ogystal.[1]
LLyfryddiaeth ddethol
golyguLlyfrau Carneddog
golygu- Gwreichion y Diwygiadau (Llyfrau ab Owen, 1905)
- Gwaith Glan y Gors (golygydd Cyfres y Fil, 1905)
- Blodau'r Gynghanedd
- Cerddi Eryri (1927)
- Ceinion y Cwm
Llyfrau amdano
golygu- Bleddyn Owen Huws, Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927) Carneddog
- Bleddyn Owen Huws (gol.), Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932
- E. Namora Williams, Carneddog a'i Deulu (Gwasg Gee, 1985)