Y Genedl Gymreig
Papur newydd wythnosol â gogwydd golygyddol Radicalaidd a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon rhwng 1877 a 1937 oedd Y Genedl Gymreig. O 1892 ymlaen cefnogodd y Blaid Ryddfrydol. Daeth i ben yn 1937 pan y'i unwyd â'r Herald Gymraeg.
Math o gyfrwng | papur wythnosol, papur newydd |
---|---|
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Chwefror 1877 |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Pencadlys | Caernarfon |
Sefydlwyd y papur gan Hugh Pugh, Evan Jones, W. Cadwaladr Davies a John Davies (Gwyneddon) yng Nghaernarfon yn 1877. Cawsai ei argraffu ar y dechrau gan D. W. Davies, Caernarfon. Yn 1884 prynwyd y cwmni gan Gwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig.
Yn Ionawr 1892 cafodd ei brynu gan gwmni a sefydlwyd gan rai o ASau Rhyddfrydol Cymru ac yn eu plith David Lloyd George ac apwyntiwyd Beriah Gwynfe Evans yn olygydd. Papur wythnosol ydoedd, a'i bris yn geiniog. Daeth i chwarae rhan amlwg yng ngwleidyddiaeth Radicalaidd troad y ganrif a'r ymgyrch i ddatgysylltu Eglwys Loegr. Cyhoeddid dau argraffiad o 1892 ymlaen, un i'r gogledd a'r llall i'r de. Sylfaen ei athrawiaeth olygyddol oedd fod "Cymru yn un a'r Cymry yn genedl".
O'r 1890au ymlaen bu ei olygyddion a chyfranwyr yn cynnwys John Owen Jones (ap Ffarmwr), Beriah Gwynfe Evans, John Thomas (Eifionydd), E. Morgan Humphreys ac O. Llew Owain. Daeth 'Swyddfa'r Genedl' yng Nghaernarfon yn lle amlwg ym mywyd llenyddol a diwylliannol gogledd-orllewin Cymru.
Ffynhonnell
golygu- T. M. Jones, Llenyddiaeth Fy Ngwlad (Treffynnon, 1893), tt. 85-86.