Caryl Hughes

soprano Cymreig

Soprano o Gymru o Aberdaron, Pen Llŷn, yw Caryl Hughes sydd wedi perfformio ar lwyfannau'r byd. Yn ddiweddar, perfformiodd yng nghynhyrchiad byd-eang Y Tŵr ar gyfer Theatr Cerdd Cymru.

Caryl Hughes

Hyfforddiant

golygu

Hyfforddwyd Caryl mewn astudiaethau lleisiol ac opera yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yna, aeth ymlaen i astudio yn Academi Llais Caerdydd. Mae wedi ennill llawer o wobrau; fel W. Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr llais rhyngwladol Stuart Burrows. Hefyd, bu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Cantorion Cymru yn 2006 a chystadleuaeth canu ryngwladol Les Azuriales yn 2010.

Perfformiadau

golygu

Mae canu mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel ar gyfer Raymond Gubbay ymhlith yr uchafbwyntiau gyrfaol. Uchafbwynt arall yn ei yrfa yw perfformio yn y Parc Grange a Gŵyl y Gelli. Wedi perfformio caneuon Caberet Britten yn gwyliau Aix-en-Provence ac Aldeburgh yn 2009, rhyddhaodd Caryl ddisg yn ddiweddarach gyda Malcolm Martineau.