Un o gestyll tywysogion Powys oedd Castell Bodyddon. Mae ei hanes yn ansicr ac ni wyddom pryd cafodd ei godi.

Castell Bodyddon
Mathardal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru

Codwyd y castell ger pentref Llanfyllin, Powys. Castell mwnt a beili pur sylweddol oedd Castell Bodyddon. Mae'n debyg mai Tomen yr Allt, tua milltir a hanner o Lanfyllin, oedd y safle.

Erbyn y 1250au roedd y castell ym meddiant Gruffudd ap Gwenwynwyn, mab y tywysog Gwenwynwyn ab Owain, sefydlydd Powys Wenwynwyn. Fel ei dad o'i flaen mewn perthynas â Llywelyn Fawr, roedd elyniaeth rhwng Gruffudd a Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd a Chymru. Pan ymgyngreiriodd Gruffudd â'r Goron Seisnig yn erbyn Llywelyn, cyrchodd yr olaf i Bowys yn 1257 a dinistriodd Gastell Bodyddon. Cymerodd Llywelyn feddiant ar diroedd Gruffudd a ffôdd i alltudiaeth. Dychwelodd Gruffudd yn 1263. Talodd wrogaeth i Lywelyn a dychwelwyd ei diroedd iddo ond ni cheir cyfeiriad arall at y castell.

Ffynonellau golygu

  • Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)