Ardal eang o barcdir aeddfed o fewn cyrraedd canol dinas Caerdydd yw Parc Bute (Saesneg: Bute Park). Gorwedda rhwng afon Taf, Gerddi Sophia, Caeau Pontcanna a Chastell Caerdydd. Mae'r parc hanesyddol hwn yn boblogaidd iawn gan bobl leol, gweithwyr canol y ddinas, ac ymwelwyr ac yn gweithredu fel "ysgyfaint gwyrdd" yng nghanol y ddinas brysur. Prin yw'r dinasoedd yng nglwedydd Prydain sydd ag ehangder gwyrdd mor sylweddol yn eu canol. Rhed Llwybr Taf trwy'r parc a cheir mynediad iddo o gornel Caeau Blackweir. O Bont Canna, ger Stadiwm y Mileniwm, ar ymyl y parc gellir dal bws dŵr i Fae Caerdydd ac ymlaen i bentref Penarth.

Parc Bute
Mathparc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.489°N 3.189°W Edit this on Wikidata
Map
Meini'r Orsedd ym Mharc Bute

Dolenni allanol

golygu
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato