Castell Caeron

amddiffynfa gynhanesyddol yn Llŷn, Gwynedd

Amddiffynfa gynhanesyddol yn Llŷn, Gwynedd, yw Castell Caeron. Mae'n gaer gyda muriau o gerrig a leolir ar fryncyn creigiog ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Rhiw ger Bryncroes.[1]

Castell Caeron
Mathlloc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.839377°N 4.626568°W Edit this on Wikidata
Map
Castell Caeron; mae bwthyn Pen y Castell ar ran uchaf y gaer.
Edrych i lawr ar Gastell Caeron.

Yn ôl pob tebyg mae'r gaer hon yn dyddio o Oes yr Haearn.[1] Mae'n gorwedd ger yr hen lwybr hanesyddol i Aberdaron ac Ynys Enlli ym mhen eithaf penrhyn Llŷn.

Nid yw'r gaer wedi'i chofrestru fel bryngaer gan Cadw.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 R.G. Livens, 'Iron Age Sites', yn yr Atlas of Caernarvonshire (1977), tud. 45.

Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato