Castell Cil-y-coed
Castell Normanaidd o'r Oesoedd Canol ydy Castell Cil-y-coed, ar ffurf mwnt a beili heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Cil-y-coed, Sir Fynwy; cyfeiriad grid ST487895. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Cryfahwyd y castell dros y blynyddoedd.
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cil-y-coed |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 11.9 metr |
Cyfesurynnau | 51.5931°N 2.74225°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM050 |
Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: MM026 .[1]
Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Mae Cil-y-coed yn cael ei grybwyll yn Llyfr Dydd y Farn fel tir amaethyddol a ganhaliwyd gan Durlan, Siryf Caerwrangon.[3]
Yn 1885 gwerthwyd y castell i Joseph Richard Cobb, a adferwyd y castell gan ei droi'n gartref i'w deulu [4].
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Data Cadw
- ↑ ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]
- ↑ Caldicot yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
- ↑ adferwyd 14/05/2012