Castell Craig-y-nos
Plasty mawr o Cyfnod Fictoraidd yng Nghraig-y-nos, Mhowys, yw Castell Craig-y-nos. Mae'r adeilad, a oedd gynt yn eiddo i'r gantores opera Adelina Patti, bellach yn westy. Mae't tŷ yn adeilad rhestredig Gradd II*.[1]
Math | plasty gwledig, cyn ysbyty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tawe Uchaf |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 209 metr |
Cyfesurynnau | 51.825°N 3.6842°W |
Cod OS | SN840153 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth farwnaidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn gyfagos i'r castell mae ei diroedd wedi'u tirlunio sydd bellach yn gweithredu fel parc gwledig, a reolir ar wahân gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.[2]
Cynlluniwyd y tŷ gwreiddiol (prif floc y de bellach) gan Thomas Henry Wyatt a'i adeiladu ym 1842 ar gyfer Rhys Davies Powell. Gwnaed ychwanegiadau amrywiol – gan gynnwys y bloc gogledd, twr y cloc, gardd aeaf a theatr – gan Bucknall & Jennings o Abertawe ym 1891 ar gyfer y gantores enwog Adelina Patti, a brynodd y tŷ ym 1878.
Ar ôl marwolaeth Adelina Patti ym 1919 gwerthwyd y castell a'r tiroedd i Ymddiriedolaeth Goffa Genedlaethol Cymru ym 1921. Fe'i hailadeiladwyd fel sanatoriwm ar gyfer y diciâu a'i ailenwi'n Ysbyty Adelina Patti. Yn 1959 daeth yn ysbyty i'r henoed, a pharhaodd i wasanaethu'r swyddogaeth honno tan 1986. Ar ôl cyfnod hir o atgyweirio ac adfer agorodd y tŷ fel gwesty ar ddechrau'r 21g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Craig-y-nos Castle, Glyntawe", Gwefan Coflein; adalwyd 7 Mawrth 2020
- ↑ "Craig-y-nos Castle, Gardens, Glyntawe", Gwefan Coflein; adalwyd 7 Mawrth 2020