Adelina Patti
Cantores opera enwog o Sbaenes oedd Adelina Patti (10 Chwefror 1843 – 27 Medi 1919). Daeth yn hynod enwog ym myd cerddorol Llundain, Paris a dinasoedd mawr eraill fel un o sopranos opera mwyaf blaengar y cyfnod gyda'i llais bel canto. Roedd hi'n adnabyddus fel 'Madame Patti', "Brenhines y Gân". Ganwyd hi ym Madrid ar y pedwerydd-ar-bymtheg o Chwefror, 1843, i fam Eidalaidd a thad Sisilaidd.
Adelina Patti | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
10 Chwefror 1843 ![]() Madrid ![]() |
Bu farw |
27 Medi 1919 ![]() Aberhonddu ![]() |
Dinasyddiaeth |
Sbaen, Brenhiniaeth yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth |
canwr opera ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth glasurol, opera ![]() |
Math o lais |
soprano coloratwra ![]() |
Tad |
Unknown ![]() |
Mam |
Caterina Barili ![]() |
Priod |
Ernesto Nicolini ![]() |
Gwobr/au |
Medal Diwylliant ac Addysg, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic ![]() |
Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos, yn y Fforest Fawr, Brycheiniog, i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Gastell Craig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America.
Ym 1877 ysgrifennodd Giuseppe Verdi mai Patti oedd y gantores orau a fu erioed.[1] Ym 1862, tra ar daith o'r Unol Daleithiau, canodd gân John Howard Payne - Home, Sweet Home yn y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Abraham Lincoln a'i wraig Mary Lincoln. Ar y pryd roeddent mewn galar wedi iddynt golli eu mab Willie a fu farw o'r teiffoid. Roedd dagrau'n powlio i lawr eu gruddiau a mynnent ei bod yn canu'r gân eilwaith. Am flynyddoeddd wedi hynny cysylltwyd y gân â Lincoln.
RecordiadauGolygu
Trafferth chwarae'r ffeil hon? Gweler yr Adran Gymorth. |
Tua 1890 y recordiodd ei chân gyntaf - ar gyfer Thomas Marshall yn Efrog Newydd. Collwyd y rhain dros y blynyddoedd.
Recordiodd dros 30 record gramaffôn o arias operatig a chaneuon eraill a cheir un recordiad o'i llais yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'w gŵr, yn 1905 a 1906. Ceir 'tril' yn ei llais, hyd yn oed heddiw, a gallwn ddeall yn iawn pam ei bod, yn ei hanterth yn ennil $5,000 y noson.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ John Frederick Cone; William R. Moran (November 1993). Adelina Patti: queen of hearts. Amadeus Press. t. 129. ISBN 978-0-931340-60-4. Cyrchwyd 22 September 2013.