Castell Holt
Castell canoloesol ger pentref Holt, yng ngogledd-ddwyrain Cymru bron ar y ffin â Lloegr, yw Castell Holt. Gorwedd ar lan Afon Dyfrdwy.
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Holt |
Sir | Sir Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.0779°N 2.88023°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen |
Dynodwr Cadw | DE106 |
Codwyd y castell, sydd ar gynllun pentagonaidd anghyffredin gyda thyrrau crwn ar bob cornel, gan yr arglwydd lleol John Warenne, arglwydd Brwmffild a Iâl, a dderbynasai ei dir gan Edward I o Loegr ar ôl 1282. Roedd Castell Dinas Brân yn ei feddiant hefyd, ond am ei fod mewn cyflwr gwael ar ôl y rhyfel a hefyd am fod Cymry cantrefi Iâl a Maelor Gymraeg, a unwyd i greu'r arglwyddiaeth newydd, yn wrthryfelgar, penderfynodd Warrene godi castell newydd yn nes at y ffin. Credir iddo ddechrau ar y gwaith o godi Castell Holt cyn 1311. Roedd yn adeilad mawr pedwar llawr gyda ffos llawn o ddŵr o'i gwmpas i'w amddiffyn.
Roedd Castell Holt yn adfail erbyn yr 17g; y cwbl a erys heddiw yw rhannau isel muriau'r gorthwr mewnol, porth a grisiau, ac mae'n gofyn cryn dychymyg i ailgreu'r castell mawreddog a safai yma yn y 14g. Cafodd gweddill yr adfeilion, yn gerrig hen dywodfaen coch gwerthfawr, ei symud ar gychod i lawr afon Dyfrdwy ar ôl gwarchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr a'u defnyddio at adeiladau Neuadd Eaton, ger Caer.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- David Cathcart King, 'The Stone Castles', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991).