Castell Tafolwern
Castell mwnt a beili canoloesol ger pentref Llanbrynmair ym Mhowys yw Castell Tafolwern. Gorwedd y castell, a adwaenir fel 'Yr Hen Domen' heddiw, ar gymer afonydd Twymyn ac Iaen, ar gyrion Llanbrynmair.
Math | castell mwnt a beili |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Yn yr Oesoedd Canol, gorweddai Tafolwern yng nghwmwd Cyfeiliog yn ne-orllewin Teyrnas Powys. Yma, mae'n debyg, yr oedd llys y cwmwd. Codwyd y castell naill ai gan Owain Gwynedd, brenin teyrnas Gwynedd, neu gan Owain Cyfeiliog, arglwydd Cyfeiliog, tua 1160. Mae'n bosibl fod Owain Gwynedd wedi codi'r castell ar ôl ymgiprys am reolaeth yng Nghyfeiliog rhyngddo a Hywel ap Ieuaf, arglwydd Arwystli. Ond ni ellir diystyrru'r posiblrwydd mai Owain Cyfeiliog a'i gododd rhywbryd ar ôl ddod yn arglwydd Cyfeiliog yn 1149. Yn sicr roedd ym meddiant llawn Owain Cyfeiliog erbyn 1165, ond collodd ei afael arno yn nes ymlaen a daeth i feddiant yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.
Parhaodd y castell i gael ei ddefnyddio gan dywysogion Powys Wenwynwyn. Ceir cofnod o ddwy siarter a roddwyd gan Gwenwynwyn ab Owain i abatai ym Mhowys o Dafolwern ar ddiwedd y 12g. Ymosododd Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr, ar y castell yn 1244. Ar ôl hynny mae'n diflannu o'r cofnodion.
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)