Castell y Blaidd
Amddiffynfa o'r cyfnod Normanaidd ym mhlwyf Llanbadarn Fynydd, canolbarth Powys, yw Castell y Blaidd (Saesneg: Wolf's Castle). cyfeiriad grid SO125798
Math | caer lefal, castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.409176°N 3.288189°W |
Cod OS | SO1247879808 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | RD102 |
- Am y pentref yn Sir Benfro, gweler Cas-blaidd (Wolf's Castle).
Credir i'r castell gael ei godi yn y 12g, ond does dim cofnod hanesyddol i ategu hynny. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger bwlch strategol: mae cael cestyll Normanaidd mor uchel i fyny yn anghyffredin iawn ac ni ellir llwyr diystyru'r posiblrwydd ei fod yn adeiladwaith Cymreig, er bod yr arddull yn Normanaidd. Gorwedd yn ardal ganoloesol Rhwng Gwy a Hafren.
Ceir amddiffynfa o bridd ar ffurf pedol gyda mynedfa yn y gornel ogledd-orllewinol. Does dim olion adeiladwaith o fewn yr amddiffynfa. Mae'n bosibl fod yr amddiffynfa wedi cael ei ddinistrio yn bur gynnar yn ei hanes.
Ceir olion tai a chaeau canoloesol gerllaw.
Mae Llwybr Glyndŵr yn croesi'r bryniau heb fod nepell o'r safle.
Ffynhonnell
golygu- Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995).