Llanbadarn Fynydd

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan gwledig a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanbadarn Fynydd.[1] Saif ar briffordd yr A483 yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Y Drenewydd i'r gogledd a Llandrindod i'r de.

Llanbadarn Fynydd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPadarn Edit this on Wikidata
Poblogaeth306 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,010.67 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4°N 3.3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000287 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Gweler hefyd Llanbadarn (gwahaniaethu).

Mae'r pentref ar lan Afon Ieithon. Mae'r bryniau o'i gwmpas yn cynnwys Moel Wilym (469m) a'r Moelfre (475m) i'r dwyrain a'r Ddyle (485m) i'r gorllewin. Y pentrefi agosaf yw Llananno a Llanbister i'r de.

Mae eglwys y plwyf, sy'n rhoi ei henw i'r pentref, yn un o nifer yng Nghymru a gysylltir â Sant Padarn. Yno ceir gweld enghreifft dda o ysgrîn bren ganoloesol a chroglofft mewn arddull sy'n nodweddiadol o'r Canolbarth a'r Gororau.

Ceir castell mwnt a beili Normanaidd a elwir Castell y Blaidd yn y plwyf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbadarn Fynydd (pob oed) (306)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbadarn Fynydd) (26)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbadarn Fynydd) (158)
  
51.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbadarn Fynydd) (28)
  
24.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.