Bar pop-up yw Cavavancarafan o’r 1970au sydd wedi’i thrawsnewid i ddarn o gelf unigryw – yn arbenigo mewn Siampên, Cava, Prosecco.

Cavavan

Cefndir

golygu

Carafan o’r 70au sydd wedi’i thrawsnewid i ddarn o gelf unigryw a bar yw Cavavan. Mae’r garafan seicadelig yn arbenigo mewn Siampên, Cava, Prosecco, a hefyd yn cynnig gwasanaeth bar llawn, yn gwerthu’r cwrw a seidr gorau o Gymru. [1] Archifwyd 2018-06-05 yn y Peiriant Wayback.

Mae’r garafan wedi’i pheintio gan yr artist o Gaerfyrddin Swci Delic, sy’n enwog am ei phatrymau lliwgar beiddgar – mae’n ddarn o gelf yn ei hun. [2]

Gan deithio o amgylch Cymru a thu hwnt, mae'r Cavavan i’w gweld mewn gwyliau, priodasau, partïon, a digwyddiadau hyrwyddo, gan gynnig gwasanaeth hyblyg gyda phecynnau wedi’u teilwra. [3]

Mae’r ddwy ffrind o Grangetown, Caerdydd, sydd tu ôl i’r fenter, wedi treulio sawl haf eu hunain yn yfed mewn gwyliau ledled y byd!

Gwelwyd y Cavavan mewn gwyliau ar hyd a lled Cymru gan gynnwys Tafwyl, Velothon Cymru a Burning Lantern.