Grangetown

ardal yng Nghaerdydd

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.[1] Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

Grangetown
View across Penarth Moors toward Cardiff - geograph.org.uk - 1378102.jpg
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4675°N 3.1853°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000847 Edit this on Wikidata
Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.

Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011[2]. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[3] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.

Enwau CymraegGolygu

Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg.[1] Gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g[4]) ac Y Grenj[5] (sydd yn cyfateb i'r Saesneg The Grange). Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr (ffurf sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor).[6] Ymddengys fod yr enwau Trelluest[7], Trefaenor[8] a Trefynach[9] yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru, ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest (t. 118).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[10][11][12][13]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Grangetown (pob oed) (19,385)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Grangetown) (1,867)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Grangetown) (11520)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Grangetown) (2,441)
  
29.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Davies, John; Menna Baines, Peredur Lynch, Nigel Jenkins (2008). Gwyddoniadur Cymru (yn Cymraeg). Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 118. ISBN 0-7083-1954-3
  2. "Gwybodaeth Ward Cyngor Caerdydd" (PDF). Adalwyd, Ebrill 2019. Check date values in: |date= (help)
  3. Swaminarayan Wales
  4. Er enghraifft, 'ar y Morfa, mewn lle a elwir y Grange', Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Thomas Rees a John Thomas (1871).
  5. Er enghraifft, 'Paul a'r Pethe', Vaughan Roderick, BBC (2010).
  6. Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 183 etc., yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg Fy Aelwyd (Caerdydd, 1998).
  7. Er enghraifft, 'Marwolaeth Caerdydd: Cyhuddo dyn', Golwg360 (2011).
  8. Er enghraifft, 'Tîm pêl fas gwaith nwy Trefaenor, Caerdydd, 1918' Archifwyd 2013-07-03 yn Archive.is, Casglu'r Tlysau.
  9. Er enghraifft, Rhagolwg 27 Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback., RhAG (February 2013).
  10. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  12. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  13. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni AllanolGolygu